Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Carl Sargeant: Teulu'n galw am ymchwiliad llawn
Mae teulu'r diweddar Carl Sargeant wedi cyhoeddi gohebiaeth sy'n awgrymu fod yr honiadau yn ei erbyn yn ymwneud 芒 "sylw di-eisiau a chyffwrdd amhriodol".
Cafodd y cyn-weinidog 49 oed ei ganfod yn farw yn ei gartref yng Nghei Connah fore Mawrth.
Yn y datganiad, mae'r teulu'n dweud eu bod yn rhyddhau'r wybodaeth "yng ngoleuni'r amharodrwydd i egluro natur yr honiadau yn erbyn Carl".
Daw hyn wrth i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wynebu cwestiynau am y modd y gwnaeth ddelio gyda'r mater.
Dywedodd llefarydd ar ran Carwyn Jones: "Mae hwn yn gyfnod anodd i bawb, yn enwedig teulu Carl, sy'n dal i ddod i delerau gyda'r newyddion ofnadwy yma.
"Fel pawb yn nheulu Llafur Cymru, mae Carwyn yn teimlo ergyd drom o golli ffrind.
"Yfory bydd ACau Llafur Cymru yn cyfarfod yn y Cynulliad i gofio Carl ac i drafod digwyddiadau trasig yr wythnos aeth heibio.
"Bydd Carwyn yn gwneud datganiad pellach wedi'r cyfarfod."
Mae llefarydd arall wedi dweud mai Plaid Lafur y DU wnaeth gychwyn ymchwiliad i'r honiadau yn erbyn Mr Sargeant.
Bellach, mae arweinydd UKIP yng Nghymru, Neil Hamilton wedi galw ar Mr Jones i ymddiswyddo, gan ddweud ei fod wedi "methu yn ei ddyletswydd i ofalu" am Mr Sargeant.
'Dim cyfiawnder naturiol'
Ychwanegodd datganiad y teulu: "Hyd at ei farwolaeth drasig fore dydd Mawrth, chafodd Carl ddim o'i hysbysu o unrhyw fanylion yr honiadau yn ei erbyn, er gwaethaf ceisiadau a rhybudd am ei les meddyliol."
Mae'r ohebiaeth hefyd yn datgelu pryderon y cyfreithiwr fod ymddangosiadau yn y cyfryngau gan y Prif Weinidog ddydd Llun yn niweidio'r ymchwiliad.
"Hoffai'r teulu ddatgelu'r ffaith fod Carl yn mynnu ei fod yn ddieuog a'i fod yn gwadu iddo wneud unrhyw beth o'i le.
"Roedd y poen meddwl o fethu ag amddiffyn ei hun yn iawn yn erbyn honiadau amhenodol yn golygu na chafodd y cwrteisi, gweddustra na'r cyfiawnder naturiol."
Dywedodd llefarydd ar ran y blaid Lafur: "Yn dilyn honiadau ddaeth i sylw Llafur Cymru drwy law Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fe gychwynnwyd ymchwiliad gan blaid Lafur y DU.
"Fe wnaeth llywodraethiant y blaid Lafur a'r Uned Gyfreithiol siarad 芒 Carl Sargeant ac - yn unol 芒 gweithdrefnau a gytunwyd - amlinellu natur yr honiadau oedd wedi eu derbyn a sut y byddai'r broses g诺ynion yn gweithio."
'Ddim yn gywir'
Ond mewn datganiad pellach gan gyfreithwyr ar ran teulu Mr Sargeant, mae'r teulu'n gwadu fod Llafur wedi cynnig cymorth i'r cyn-weinidog wedi iddo gael ei ddiswyddo, ac maen nhw'n galw eto am ymchwiliad.
Dywed y datganiad: "Mae wedi cael ei awgrymu fod cefnogaeth wedi ei chynnig i Mr Sargeant. Dyw hi ddim yn glir ar ba ffurf oedd y gefnogaeth a gynigiwyd, ond nid yw hynny'n gywir.
"Ni chafodd unrhyw gefnogaeth ei gynnig i Mr Sargeant heblaw am gefnogaeth bersonol gan gyfeillion agos a'i deulu.
"Mae'r teulu yn gobeithio wrth fynd ymlaen y bydd ymchwiliad llawn a chraffu ar y modd y gwnaeth y gwahanol bart茂on ddelio gyda'r honiadau, Mr Sargeant yn bersonol a'r datganiadau sydd wedi eu gwneud yn y wasg a'r cyfryngau.
"Does dim amheuaeth y bydd y rhai oedd 芒 dyletswydd glir o ofal am Carl ac i'w deulu angen darparu eglurhad maes o law am eu safbwyntiau yn y drasiedi yma."
'Diswyddo dideimlad'
Mae arweinydd UKIP Cymru, Neil Hamilton wedi galw ar y Prif Weinidog Carwyn Jones i ymddiswyddo gan ddweud ei fod "wedi methu yn ei ddyletswydd i ofalu" am Mr Sargeant.
"Mae'n amlwg fod y ffordd y cafodd ei ddiswyddo yn ddideimlad ac yn mynd yn groes i egwyddor sylfaenol cyfiawnder naturiol - sy'n rhoi'r cyfle i'r un sy'n cael ei gyhuddol i amddiffyn ei hun."
Yn gynharach, dywedodd un AC Llafur wrth 91热爆 Cymru fod "cwestiynau ar gyfer y prif weinidog am hyn", tra bod un arall wedi dweud bod "cwestiynau yngl欧n 芒'r mater o ddyletswydd i ofalu".
Dywedodd un AC Llafur bod "cwestiynau am y broses gafodd ei ddilyn", a'i bod yn "anodd deall pam y cafodd Carl ei daflu i ffau'r llewod" gan ddweud bod Mr Sargeant wedi cael ei "ynysu heb i unrhyw benderfyniad gael ei wneud am ei euogrwydd".
"Mae pryder mawr yn y gr诺p am y ffordd y mae hyn wedi cael ei drin."
Roedd hi'n edrych fel bod y pwysau a'r Mr Jones yn cynyddu ddydd Mercher wrth i'r AS Ceidwadol, Chris Davies alw ar Carwyn Jones i ymddiswyddo, ac AS Llafur blaenllaw, Dawn Butler yn galw am ymchwiliad annibynnol.
Mewn cyfweliad radio gyda'r 91热爆 fe wnaeth Ms Butler ddweud fod angen ymchwiliad annibynnol i'r modd y gwnaeth Llafur Cymru ddelio gyda'r honiadu.
Ond yn ddiweddarach fe gyhoeddodd hi ddatganiad yn dweud ei bod wedi astudio'r achos yn fwy manwl a'i bod nawr yn credu "fod y broses gywir wedi ei dilyn, gan gynnwys sicrhau nad oedd enwau y rhai oedd yn gwneud yr honiadau yn cael eu datgelu".
Mae cyn-archwilydd ar safonau ym mywyd cyhoeddus wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i ddiswyddiad Mr Sargeant, oedd yn AC Alun a Glannau Dyfrdwy.
Dywedodd Syr Alistair Graham wrth raglen Wales Live bod Llywodraeth Cymru'n anghywir i ddiswyddo Mr Sargeant heb ddatgelu'r manylion am yr honiadau yn ei erbyn.