Cyngor sir yn penderfynu cau cartref gofal yn Aberystwyth

Disgrifiad o'r llun, Ymgyrchwyr o Undeb GMB yn dangos eu gwrthwynebiad i gau Bodlondeb wrth i'r cynghorwyr gwrdd yn Aberaeron ddydd Mawrth

Mae cabinet Ceredigion wedi penderfynu yn unfrydol i fwrw 'mlaen gyda chynllun i gau cartref preswyl Bodlondeb yn Aberystwyth.

Golyga'r penderfyniad y bydd y cartref ym Mhenparcau yn cau erbyn diwedd Mawrth 2018.

Roedd Undeb y GMB wedi gwrthwynebu'r bwriad i gau gan ddweud y byddai yn creu "bwlch mawr" yn y gofal sy'n cael ei gynnig yn y canolbarth.

Bu'r cyngor sir yn ceisio gwerthu cartref Bodlondeb ers dwy flynedd ond heb unrhyw lwyddiant.

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Mae cartref Bodlondeb wedi bod yn gwneud colled o oddeutu 拢400,000 y flwyddyn

Mae gwelyau i 44 yno, ond dim ond 26 sydd wedi eu cofrestru, gan nad yw'r gweddill yn cyd-fynd 芒'r safonau angenrheidiol.

Mae 33 o weithwyr gofal yn gweithio ym Modlondeb

Mae'r 91热爆 yn deall mai saith o breswylwyr sydd ar hyn o bryd, gydag un ohonynt ar fin symud yn y dyfodol agos.

Ni fydd y cartref yn derbyn unrhyw breswylwyr newydd yn y cyfnod cyn iddo gau.

Dywed y cyngor y bydd y rhai sy'n derbyn gofal yn y cartref yn gorfod symud i gartref arall.

Penderfyniad anodd

Dywedodd y cynghorydd Catherine Hughes aelod cabinet sydd 芒 chyfrifoldeb dros wasanaethau cymdeithasol: "Roedd y penderfyniad i gau Bodlondeb yn un anodd ei wneud; dwi'n ymwybodol iawn bod y cartref wedi gwasanaethu trigolion h欧n y sir a'u teuluoedd yn dda am ddegawdau."

"Mae gofynion ac anghenion pobl h欧n yn newid gyda phobl h欧n yn dewis derbyn gofal yn eu cartrefi.

"Mae'r penderfyniad yn galluogi'r cyngor i ddefnyddio adnoddau yn effeithiol, i sicrhau'r gofal gorau posib i'n trigolion h欧n."

Nododd adroddiad gan swyddogion Cyngor Ceredigion fod y cartref wedi bod yn gwneud colledion o hyd at 拢400,000 y flwyddyn - mwy na 拢7,600 yr wythnos.

Ddydd Sadwrn fe wnaeth 150 orymdeithio drwy Aberystwyth gan brotestio yn erbyn y bwriad i gau. Roedd 600 o bobl wedi arwyddo deiseb i gadw'r cartref ar agor.