Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ethol Jane Dodds i arwain Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Jane Dodds yw arweinydd newydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.
Mae'n olynu Mark Williams sydd wedi ymddiswyddo ar 么l iddo golli ei sedd yn Etholiad Cyffredinol eleni.
Mae Ms Dodds yn hanu o'r Trallwng, a hi oedd ymgeisydd aflwyddiannus y blaid ym Maldwyn yn ystod etholiad 2017.
Fe'i hetholwyd yn dilyn ymgyrch yn erbyn Elizabeth Evans, cynghorydd sir Aberaeron.
Cafodd Dodds 53.1% o'r bleidlais, gydag Elizabeth Evans yn cipio 46.9%.
Pleidleisiodd 35.2% o aelodau'r blaid yn yr etholiad.
Dywedodd Jane Dodds: "Bydd fy egni yn cael ei roi i ailadeiladu'r blaid ac ailsefydlu'r blaid fel grym radical a blaengar."