Dafydd Elfryn: Y 'brain drain' yn broblem wirioneddol

Ffynhonnell y llun, Twitter

Disgrifiad o'r llun, Yr ystadegydd, Dafydd Elfryn sy'n craffu ar y ffigyrau mudo ar ran Cymru Fyw

Dwi wedi clywed dipyn o s么n yn ddiweddar am y 'brain drain' yng Nghymru - y pryder bod pobl ifanc yn gadael y wlad.

Mae'n debyg bod pawb yn nabod rhywun, boed yn aelod o'r teulu neu'n ffrind, sydd wedi gadael eu milltir sgw芒r i chwilio am waith, neu fynd i goleg, a ddaeth ddim yn 么l.

Es i ati i weld os ydy'r ffigyrau sydd ar gael yn cefnogi'r ddamcaniaeth yma.

Wrth edrych ar y niferoedd mudo, y ffigwr pwysig ydy'r swm net - hynny ydy, y gwahaniaeth rhwng y rhai sydd yn gadael a'r rhai sy'n dod i mewn.

Os oes 100 o bobl yn gadael Cymru, a bod 100 yn symud i mewn, bydd y ffigwr net yn 0 ayyb.

Mae'r siart isod yn dangos y ffigwr net o fudo rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig fesul blwyddyn ers 2001:

Roedd y niferoedd ar eu huchaf yn 2002, gyda dros 14,000 yn fwy wedi dod i mewn i Gymru na aeth allan.

Dim ond unwaith yn ystod y cyfnod, yn 2012, fu Cymru ar ei cholled, gyda 670 yn fwy yn gadael na ddaeth yma.

Ers 2001, ar gyfartaledd, mae poblogaeth Cymru yn cynyddu o tua 5,000 oherwydd mudo mewnol y DU.

Ar y wyneb felly, does dim golwg o'r "brain drain". Ond i weld yn iawn, rhaid edrych ar y ffigyrau mudo fesul gr诺p oedran.

Oedrannau yn adrodd cyfrolau

Y broblem efo defnyddio'r ffigwr net ydy ei fod yn cynrychioli pawb, o fabis i bensiynwyr. 'Dan ni angen edrych yn fanylach ar oedrannau'r bobl sy'n mynd a dod.

Mae'r siart isod yn dangos y cyfartaledd mudo fesul gr诺p oedran, dros yr un cyfnod.

Mae'r stori yn wahanol iawn y tro hwn.

Fel y gwelwch chi, mae Cymru yn colli dros 1,800 o bobl rhwng 15-29 y flwyddyn. O ran yr oedrannau eraill - mae'r wlad yn ennill poblogaeth, yn enwedig mewn poblogaeth oed 45-64.

Wrth edrych ar y data fesul oedran, mae'r ffigyrau i weld yn cefnogi'r syniad o "brain drain" - bod pobl ifanc yn gadael Cymru a bod nifer fawr o bobl h欧n yn symud yma i fyw.

Mapiau mudo

Ond ydy'r duedd hon wedi ei rhannu yn hafal ar draws y wlad?

Drwy fapio'r data, dyliwn ni weld unrhyw batrymau amlwg.

Yn y mapiau sy'n dilyn, dwi wedi cadw'r un steil fel bod modd eu cymharu yn haws.

Mae'r map cyntaf yma yn dangos niferoedd mudo net Cymru yn ystod 2001-2016 - gyda'r nifer wedi eu cyfrifo fel canran poblogaeth pob sir.

Mae chwe sir yn colli mwy na sydd yn dod i mewn, gyda Cheredigion yn colli'r mwyaf - bron i 1% o'r boblogaeth.

Pen-y-bont ar Ogwr sydd yn ennill y mwyaf, gyda chynnydd sydd yn cyfateb i 0.6% o'r boblogaeth.

Eto, mae'r ffigyrau net yma yn cynrychioli pob oedran - 'dan ni angen edrych ar y grwpiau 15-29 a 45-64.

Oedran: 15-29

Mae'r map isod yn dangos y mudo net mewn poblogaeth ymysg pobl rhwng 15 a 29 oed fel canran o'r boblogaeth oed yna i bob sir.

Mae'n dangos bod y rhan fwyaf o Gymru ar ei cholled, gyda dim ond pedair sir yn y de yn dangos cynnydd mewn poblogaeth.

Yng Nghaerdydd mae'r cynnydd mwyaf - cyfateb i 1.8% o boblogaeth yr oedran.

Mae Ceredigion eto ar waelod y rhestr, gyda cholled anferth o 5.2% o'r boblogaeth 15-29 oed.

Oedran: 45-64

Yn olaf, mae'r map isod yn dangos y mudo net yng ngr诺p oedran 45-64.

Yn wahanol i'r map diwethaf, Caerdydd ydy'r unig sir sydd ar ei cholled, gyda 0.5% yn llai. Sir Benfro sydd yn ennill y mwyaf, gyda chynnydd o 1.82%.

Felly be' ydan ni wedi ei ddysgu o'r ffigyrau yma?

Wel, mae'r "brain drain" i weld yn broblem wirioneddol yng Nghymru. Yn flynyddol, mae'r wlad yn colli poblogaeth ifanc ac yn ennill poblogaeth h欧n.

Ond fel mae'r mapiau wedi dangos, dydy'r broblem ddim wedi cael ei rannu'n hafal drwy'r wlad.

Mae Caerdydd yn denu pobl ifanc (fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl) tra bod ardaloedd mwy gwledig fel Ceredigion a Phowys yn eu colli.