Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ymchwiliad McEvoy yn cymryd 'hirach na'r disgwyl'
Mae ymchwiliad gan Blaid Cymru i ymddygiad yr Aelod Cynulliad Neil McEvoy yn cymryd yn hirach na'r disgwyl, meddai'r blaid.
Dechreuodd y blaid yr ymchwiliad mewnol ym mis Mawrth ar 么l i dribiwnlys ddarganfod iddo wneud sylw i swyddog cyngor oedd "gyfystyr 芒 bwlio".
Wyth mis yn ddiweddarach, mae'r ymchwiliad yn parhau.
Dywedodd llefarydd bod yr oedi wedi achosi "rhwystredigaeth ddealladwy" ond bod camau wedi eu cymryd i ddelio gyda chwynion yn gyflymach.
Cafodd yr ymchwiliad ei gyhoeddi ar 么l i honiadau gael eu gwneud am ymddygiad AC Canol De Cymru.
Rhai misoedd yn ddiweddarach fe wnaeth panel disgyblu'r blaid gyfarfod i ystyried a oedd lle i ymchwilio ymhellach.
Diwrnodau yn ddiweddarach cafodd Mr McEvoy ei wahardd o'r gr诺p yn y Cynulliad, penderfyniad mae'n apelio yn ei erbyn.
'Rhwystredigaeth'
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru bod y broses wedi cymryd cyfnod hirach na'r disgwyl, oedd wedi achosi "rhwystredigaeth".
"Mae'r fframwaith bellach mewn grym i ddelio gyda chwynion yn gyflymach ac rydyn ni wedi ymrwymo i gael datrysiad buan," meddai.
"Ond gan fod yr ymchwiliad yn parhau ni allwn wneud sylw pellach ar hyn o bryd."
Ym mis Medi, dywedodd Mr McEvoy bod "ymgyrch i geisio niweidio" ei enw da.