Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyfarfod i drafod gwasanaethau iechyd Dyffryn Nantlle
Mae dros 60 o bobl wedi bod mewn cyfarfod cyhoeddus yn Nyffryn Nantlle yng Ngwynedd i drafod dyfodol gwasanaethau iechyd yr ardal.
Dim ond dwy feddygfa sydd ym Mhenygroes bellach ar ôl i Feddygfa Dolwenith gau yn ddiweddar.
Fe arweiniodd hynny at bryderon gan rai am ddiffyg meddygon sy'n medru'r Gymraeg yn yr ardal.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dweud eu bod eisoes wedi bod mewn trafodaethau ynglŷn â chreu cyfleusterau modern i'r dyffryn.
'Dweud eu dweud'
Cafodd y cyfarfod nos Iau ei alw gan wleidyddion lleol Plaid Cymru.
Dywedodd Sian Gwenllian, AC Arfon: "'Dan ni'n cynnal y cyfarfod ar gais pobl yn yr ardal. Mae 'na nifer o newidiadau wedi bod yn ddiweddar... mae pobl wedi dechrau gweld cyfle ar gyfer creu cyfleusterau newydd yn yr ardal.
"Maen nhw hefyd yn gweld fod 'na bentrefi cyfagos bellach wedi cael meddygfeydd, neu bod 'na waith ar y gweill er enghraifft yn Waunfawr i gael canolfan newydd.
"Felly drwy hynny i gyd roedd pobl eisiau cyfle i gael dweud eu dweud."
Clywodd y cyfarfod honiadau gan y cyhoedd nad ydy'r ddarpariaeth iechyd yn Nyffryn Nantlle yn "ffit i bwrpas".
Cafodd pryderon eu mynegi am ddiffyg preifatrwydd, oedi hir, diffyg llefydd parcio, yn ogystal â diffyg gwasanaeth Cymraeg.
Doedd Plaid Cymru ddim wedi gwahodd unrhyw un o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr na'r ddwy feddygfa i'r cyfarfod.
Ond mewn datganiad fe ddywedodd y bwrdd iechyd eu bod yn ymwybodol o'r "angen am gyfleusterau iechyd modern yn Nyffryn Nantlle allai fod yn lleoliad i'r meddygfeydd a gwasanaethau eraill".
"Rydym wedi bod yn trafod efo Grŵp Cynefin ynglŷn â'r cyfleoedd posib ar gyfer prosiect ar y cyd," meddai llefarydd.