Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyflwyno deiseb i wrthwynebu carchar ym Mhort Talbot
Mae bron i 9,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu cynlluniau i adeiladu carchar newydd ym Mhort Talbot.
Cafodd y ddeiseb ei chyflwyno gan ddegau o ymgyrchwyr ar risiau'r Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mercher.
Mae'r safle ym Maglan sy'n cael ei ffafrio ar gyfer y datblygiad dan berchnogaeth gyhoeddus, ac mae'r ddeiseb yn galw ar y Cynulliad i annog Llywodraeth Cymru i beidio 芒'i ryddhau i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oes penderfyniad wedi ei wneud ar ddyfodol y safle.
Dywedodd AC Llafur Aberafan, David Rees: "Mae wedi bod yn amlwg, ers i ni wybod ym mhle roedd y safle, ei fod yn hollol anaddas ar gyfer carchar newydd.
"Ar sawl achlysur, dwi wedi galw ar Lywodraeth Cymru i beidio 芒 gwerthu'r tir i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac i'w ddefnyddio, yn lle hynny, i gryfhau'r economi yn ein tref.
"Mae'r neges gan bobl Port Talbot i Lywodraeth Cymru yn reit glir - pan fydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gofyn am brynu'r tir neu ei gael ar les, jyst dwedwch na."
Mae 'na wrthwynebiad wedi bod i'r cynlluniau am garchar newydd categori C ar gyfer 1,600 o garcharorion ers iddo gael ei gyhoeddi'n gynharach eleni.
'Angen dangos uchelgais'
Mae hefyd wedi dod i'r amlwg y gallai cyfyngiadau fod ar y safle, fyddai'n golygu mai dim ond fel parc diwydiannol y gellid ei ddefnyddio.
Dywedodd AC Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Bethan Jenkins: "Mae'n glir nad yw'r gymuned eisiau'r carchar yma.
"Dydyn nhw na Chymru angen carchar o'r maint yma yng nghalon prif ardal ddiwydiannol Cymru.
"Rhaid i Lywodraeth Llafur Cymru ddechrau meddwl mwy o Gymru a dangos rhywfaint o uchelgais i'n cymunedau, yn hytrach na cheisio gwerthu carchar newydd fel buddsoddiad economaidd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oes penderfyniad wedi ei wneud hyd yma ar ddyfodol y safle.
'拢11m i economi'r rhanbarth'
Dywedodd y Gwasanaeth Carchardai bod buddsoddiad gwerth 拢1.3bn yn cael ei wneud i "foderneiddio'r yst芒d carchardai".
"Yng Nghymru yn unig, bydd hyn yn creu hyd at 500 o swyddi ac yn cyfrannu 拢11m y flwyddyn i economi'r rhanbarth," meddai llefarydd.
"Bydd ein cynlluniau yn gweld carchardai modern o safon uchel yn cymryd lle sefydliadau h欧n, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r gymuned leol wrth i'r cynlluniau ddatblygu."