Cyflwyno cyfraith i osod isafbris ar alcohol

Disgrifiad o'r fideo, Mae Carwyn ac Elen o Brifysgol Caerdydd yn teimlo na fydd y newid yn gwneud gwahaniaeth

Bydd cynllun ar gyfer cyfraith newydd i ddynodi isafbris ar gyfer gwerthu alcohol yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun.

Yn 么l gweinidogion fe allai taclo goryfed olygu y bydd un bywyd yn cael ei achub yr wythnos.

Maen nhw hefyd yn dweud y gallai olygu 1,400 yn llai o gleifion ysbyty bob blwyddyn.

Mae'r mater pris alcohol yn cael ei weld fel y "cyswllt coll" yn ymdrechion iechyd cyhoeddus i ddatrys goryfed, yn ogystal 芒 gwell ymwybyddiaeth a thriniaeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Y bwriad yw targedu archfarchnadoedd a siopau sydd 芒 thrwydded i werthu alcohol

Byddai cyflwyno isafbris uned o 50c yn golygu na fyddai can o seidr yn cael costio llai na 拢1 neu 拢4.69 am botel o win.

Byddai litr o fodca, er enghraifft, yn gorfod costio mwy na 拢20.

Arbenigwyr o Brifysgol Sheffield sydd wedi gwneud y gwaith ymchwil. Roedden nhw yn edrych ar batrymau yfed yng Nghymru a'r farchnad diodydd.

Mae'r ymchwil wedi golygu bod fformiwla wedi ei greu sydd wedi ei seilio ar ddefnyddio canran cryfder yr alcohol a'i gyfaint er mwyn datblygu'r isafbris.

Targedu archfarchnadoedd

Er bod y nifer sydd yn yfed alcohol wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf mae swyddogion iechyd yn poeni.

Mae goryfed mewn pyliau dal yn broblem ymhlith pobl ifanc ac mae pryder am bobl dros 50 oed hefyd.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Yn 2015/16 roedd 463 o farwolaethau yn ymwneud ag alcohol yng Nghymru a 54,000 ymweliad i'r ysbyty.

Bwriad y gyfraith newydd fydd targedu diodydd rhad mewn archfarchnadoedd a siopau eraill sydd 芒 thrwydded, a hefyd unrhyw gynigion arbennig.

Mae alcohol sydd wedi ei werthu o dan 50c yr uned yn cyfri am 72% o werthiant y farchnad gwrw mewn siopau ac archfarchnadoedd yng Nghymru, 78% o'r gwerthiant seidr, 44% o'r gwerthiant gwin a 66% o wirod.

Dim ond chwater poblogaeth Cymru sydd yn cael eu cyfri fel rhai o risg uchel, ond maen nhw yn yfed 72% o'r holl alcohol sydd yn cael ei yfed a nhw sydd yn gyfrifol am 65% o'r holl wariant ar alcohol.

Disgrifiad o'r fideo, Mae Andrew Misell o Alcohol Concern yn dweud bydd y newid yn effeithio yfwyr trwm

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Cyhoeddus, Rebecca Evans: "Mae cysylltiad clir iawn ac uniongyrchol rhwng lefelau goryfed ac argaeledd alcohol rhad.

"Felly mae angen i ni gymryd camau pendant nawr i fynd i'r afael 芒 fforddiadwyedd alcohol fel rhan o ymdrechion ehangach i ddelio 芒 niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol."

'Ddim am helpu'

Yn 么l Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, bydd cyhoeddi isaf bris yn cael effaith fach ar rai sy'n yfed yn gymedrol hefyd.

Ond ychwanegodd: "Yfwyr niweidiol a pheryglus fydd yn gweld yr effeithiau mwyaf sylweddol, oherwydd eu bod nhw'n fwy tebygol o yfed cynhyrchion alcohol rhatach a chryfach."

Mae Alex Loveland, oedd yn gaeth i alcohol ei hun am gyfnod, ac sy'n helpu pobl sydd 芒 dibyniaeth, yn poeni na fydd isafbris ar alcohol yn helpu.

"Fe fyddan nhw yn trio cael gafael ar alcohol trwy unrhyw ffordd sydd yn bosib a dwi'n meddwl wneith e roi straen ar bobl ddifreintiedig," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dyma'r ail waith i Lywodraeth Cymru geisio cyflwyno deddfwriaeth yn ymwneud ag isafbris alcohol

Mae Consortiwm Manwerthu Cymru hefyd wedi mynegi pryder y gallai isaf bris effeithio yfwyr cymedrol sydd yn llai cefnog, "tra bod hyn ddim, o bosib, yn cael yr effaith byddai rhywun yn dymuno ar bobl sydd 芒 phroblem yfed".

Mae'r ddeddfwriaeth yn cael ei ystyried eto nawr, bum mlynedd ar 么l i Lywodraeth Cymru ystyried ei gyflwyno am y tro cyntaf.

'Symud yn gyflym'

Mae wedi ei hepgor o'r cyfreithiau iechyd cyhoeddus mwyaf diweddar wrth i'r Alban wynebu heriau yn y llys yngl欧n 芒'i deddfwriaeth ei hun.

Y disgwyl yw y bydd Y Goruchaf Lys yn rhoi ei ddyfarniad yn yr wythnosau nesaf, wedi ymgais i atal y ddeddf i gyflwyno isaf bris yn Yr Alban.

Os na fydd y ddeddf yn cael ei hatal, mae gweinidogion yng Nghymru yn gobeithio bydd yr isafbris yn dod i rym erbyn haf 2018.

Dywedodd Ms Evans wrth 91热爆 Radio Wales fore Llun bod Llywodraeth Cymru wedi "symud yn gyflym" i gyflwyno ei ddeddfwriaeth ei hun am y bydd y pwerau i wneud hynny yn cael eu tynnu 'n么l ym mis Ebrill dan dermau Deddf Cymru 2017.

Dan y ddeddf honno, San Steffan fydd 芒'r pwerau dros werthiant a chyflenwad alcohol.

Ond mae Llywodraeth Cymru'n credu y gallai'r ddeddf gael ei phasio ar 么l mis Ebrill os yw cam cyntaf y broses yn cael ei gymeradwyo gan ACau cyn hynny.