Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Mam Sam Tân yn codi pwysau
Mae Nia Ceidiog yn enw cyfarwydd fel actores, cyflwynydd ac awdur y gyfres animeiddio eiconig Sam Tân, ond â hithau'n 63 oed mae 'na her newydd o'i blaen.
Mae Nia yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth codi pwysau (bodybuilding) y penwythnos yma yn Birmingham. Hi fydd un o'r cystadleuwyr hynaf i gymryd rhan am y tro cyntaf mewn cystadleuaeth o'r fath.
Bydd hi'n cystadlu yn adran y Bikini Masters i'r cystadleuwyr dros 35 oed, gan wisgo bikini gyda chrisialau arno a fake tan.
Dywedodd Nia: "Dwi'n edrych 'mlaen ac hefyd yn nerfus. Bydd cymryd rhan yn eithaf brawychus ond 'dwi wedi bod yn hyfforddi ers blwyddyn ar gyfer y foment yma a dwi'n gobeithio gallai ysbrydoli merched eraill sydd o 'oed arbennig'."
"Dwi eisiau dangos be sy'n bosib ei gyflawni mewn unrhyw oed, a dwi eisiau codi'r ymwybyddiaeth ynglŷn â'r manteision iechyd o ymarfer corff drwy godi pwysau."
Trobwynt
Achlysur priodas ei mab wyth mlynedd yn ôl ysgogodd Nia i wneud newidiadau i'w bywyd. Roedd hi'n gwisgo dillad maint 16 a doedd ei ffordd o fyw ddim yn iach. Felly fe drodd at yoga ac ymarfer corff.
Wrth baratoi at y gystadleuaeth codi pwysau mae Nia bellach yn gwisgo dillad maint 6.
"I ddechrau ro'n i'n meddwl am y ffordd ro'n i'n edrych, ac ro'n i'n canolbwyntio ar wneud fy hun i edrych yn well," meddai.
"Ro'n i'n ddynes dan straen yn fy 50au, ac yn cyflogi rhwng wyth a 12 person mewn cwmni cynhyrchu. Ro'n i'n gweithio'n rhy galed ac yn trin hyn drwy yfed gwin a bwyta prydau parod.
"Hefyd, mae pobl ein cenhedlaeth ni yn byw yn hÅ·n a 'nes i feddwl am y posibilrwydd o fyw am 30 mlynedd arall - ac felly dwi eisiau mwynhau'r blynyddoedd hynny gan osgoi'r effeithiau y gall ddod efo heneiddio.
"Nes i ddod yn fwy iach drwy ymarfer corff ac astudio diet iach drwy naturopathy, ac fe wnaeth yoga ddysgu llawer i mi am fy hun hefyd."
Aeth Nia i India i astudio yoga, ac mae hi bellach yn dysgu yoga i eraill. Yr hydref diwethaf, dan hyfforddiant Anna Reich yng Nghaerdydd, fe benderfynodd Nia roi cynnig ar godi pwysau.
"Ro'n i lawr i maint dillad 12 erbyn Hydref diwethaf gyda ffitrwydd eithaf da, ond roeddwn i eisiau trio rhywbeth anarferol. Do'n i ddim yn gwneud lot o chwaraeon yn yr ysgol, a doeddwn i ddim yn hapus yn fy nghroen fy hun.
"Nes i ddewis godi pwysau, sy'n canolbwyntio ar aesthetics y corff. Roedd hyn yn apelio'n fawr felly nes i fynd ati i gysylltu efo bobl fysa'n gallu fy helpu.
'Siwrne anhygoel'
"Mae wedi bod yn siwrne anhygoel - wedi trawsnewid fy hun yn gorfforol yn sicr, ond hefyd yn ysbrydol ac yn ddeallusol.
"Mae wedi bod yn dipyn o her ac mae 'na adegau tywyll wedi bod ar hyd y siwrne. Fe wnaeth hyn imi deimlo'n eithaf sâl felly fe newidiais i fwyta powdr protein o blanhigion, pysgod ac wyau."
Dros y tri mis diwethaf mae Nia wedi bod yn ymarfer chwe diwrnod yr wythnos ac wedi cadw at ddeiet llym heb siwgr, sydd hefyd yn golygu dim ffrwythau.
"Dwi'n barod at ddydd Sul ac mi fydd dipyn o bobl hÅ·n yn cymryd rhan - ond dim llawer yn cystadlu am y tro cyntaf yn 63 oed!"
Efallai o ddiddordeb...