Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Enwi Neil Hamilton yn arweinydd UKIP yng Nghymru
Mae Neil Hamilton wedi cael ei benodi yn arweinydd UKIP yng Nghymru gan arweinydd newydd y blaid ym Mhrydain, Henry Bolton.
Margot Parker fydd y dirprwy arweinydd, gyda Jim Carver a Mike Hookem yn ddirprwyon cynorthwyol.
Hyd yn hyn roedd Mr Hamilton wedi cael ei ddisgrifio fel arweinydd gr诺p UKIP yn y Cynulliad.
Dywedodd llefarydd ar ran UKIP eu bod yn deall y bydd gan Mr Hamilton gyfrifoldebau ehangach o fewn y blaid yng Nghymru o hyn allan.
Yn fuan wedi i UKIP ennill eu seddi cyntaf yn y Cynulliad yn 2016, fe gipiodd Neil Hamilton arweinyddiaeth y blaid yn y Senedd o ddwylo'r arweinydd ar y pryd, Nathan Gill, yn dilyn pleidlais fewnol.
O ganlyniad fe wnaeth Mr Gill adael gr诺p y blaid ac mae bellach yn eistedd fel aelod annibynnol o'r Cynulliad.