Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Neil McEvoy yn apelio yn erbyn gwaharddiad o gr诺p Plaid
Mae Neil McEvoy wedi cadarnhau y bydd yn apelio yn erbyn ei waharddiad o gr诺p Plaid Cymru yn y Cynulliad.
Mae arweinydd y blaid Leanne Wood wedi dweud bod ei ymddygiad yn "amharu ac yn ymyrryd" ac yn mynd yn "groes i reolau'r blaid".
Cafodd Mr McEvoy, AC ar gyfer rhanbarth Canol De Cymru, ei wahardd wedi iddo wrthwynebu'r ffaith fod Plaid Cymru yn cefnogi diddymu hawliau tenantiaid i brynu tai cymdeithasol.
Dywedodd ei fod yn gobeithio dychwelyd i gr诺p y blaid, a bydd ei ap锚l yn cael ei chlywed fis nesaf.
'Gobeithio cael dychwelyd'
Mae'r 91热爆 yn deall bod Mr McEvoy yn gofyn am yr hawl i gael ei drin yn yr un modd ag aelodau cynulliad eraill sydd, yn ei dyb ef, wedi mynd yn groes i bolisi'r blaid a heb gael eu gwahardd.
Yn 么l ffynhonnell sydd wedi siarad 芒 91热爆 Cymru dyw Mr McEvoy ddim yn bwriadu ymddiheuro.
"Rwyf wedi gwneud ap锚l i bwyllgor gweithredol y blaid i gael mynd yn 么l i'r gr诺p yn y Cynulliad Cenedlaethol," meddai Mr McEvoy.
"Rwyf hefyd wedi hysbysu cadeirydd, prif weithredwr a prif chwip y blaid o'm mhenderfyniad.
"Drwy'r ap锚l hon rwy'n gobeithio cael dychwelyd i gr诺p Plaid Cymru."
Mae Mr McEvoy wedi bod yn aelod annibynnol o'r Cynulliad ers mis Medi pan bleidleisiodd ei gyd-aelodau yn unfrydol i'w wahardd o'r gr诺p am yr ail waith eleni.
Ar y pryd dywedodd Ms Wood wrth 91热爆 Cymru fod "yna nifer o achosion wedi bod yn ystod yr haf o siarad am bolisi, ymosod ar aelodau o'r gr诺p a pheidio trin aelodau eraill gyda pharch".
Mae Plaid Cymru hefyd yn cynnal ymchwiliad mewnol i ymddygiad Mr McEvoy.
Cadarnhaodd llefarydd ar ran Plaid Cymru fod Mr McEvoy wedi hysbysu'r blaid o'i fwriad i apelio yn erbyn ei waharddiad.
"Dyw hi ddim yn briodol i ni wneud sylw pellach," ychwanegodd.