'Problemau' yng Ngharchar Caerdydd medd arolygwyr

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Mae carchar Caerdydd yn dal oddeutu 770 o ddynion ac yn cael ei ystyried yn garchar categori B

Mae adroddiad ar gyflwr carchardai yn y DU yn dweud bod problemau yng ngharchar Caerdydd.

Mae'r adroddiad o'r enw 'Life in prison' gan Arolygwyr Carchardai Ei Mawrhydi yn crybwyll gor-boblogaeth, nifer yr oriau mae carcharor wedi'i gloi yn ei gell, glanweithdra'r carchar a bwyd.

Yn 么l yr adroddiad mae carcharorion yng Nghaerdydd yn wynebu bod dan glo am dros 27 awr ar y tro ac ond yn cael ei rhyddhau i gasglu bwyd.

"Yn aml roeddem yn darganfod carcharorion dan glo drwy'r dydd o ran oriau gwaith, ac yng Ngharchar Caerdydd (2016) roedd hyn yn 47%," yn 么l yr adroddiad.

Daeth arolygwyr i'r canlyniad hefyd nad yw'r celloedd dau ddyn yn y carchar o'r safon ddisgwyliedig, a'u bod yn llai na'r gofynion o ran maint celloedd.

Ffynhonnell y llun, HM Inspectorate of Prisons

Disgrifiad o'r llun, Roedd llun o gell yn Ngharchar Caerdydd yn rhan o'r adroddiad

Dywedodd Prif Arolygydd Carchardai, Peter Clarke: "Mae'r pryderon a'r argymhellion sydd wedi'i gosod yn y papur angen ei gymryd oddifri.

"Ni fydd uchelgais y cynllun gwella carchardai yn cael ei wireddu os yw carcharorion yn cymryd cyffuriau er mwyn pasio'r amser oherwydd diflastod o ganlyniad i gael eu cloi yn eu celloedd am amser hir," meddai.

Mae Carchar Caerdydd eisoes wedi ei feirniadu gan Mr Clarke.

Mewn ymweliad dirybudd 芒'r carchar yn ystod haf 2016, fe sylwodd Mr Clarke fod y carchar wedi dod yn le "llai diogel" ers yr arolygiad diwethaf yn 2013.

Mae carchar Caerdydd yn dal oddeutu 770 o ddynion ac yn cael ei ystyried yn garchar categori B.