Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llyfr y Flwyddyn: Cyhoeddi Rhestr Fer
Mae naw cyfrol Gymraeg a gyhoeddwyd yn ystod 2016, wedi sicrhau eu lle ar restr fer 2017.
Y cyfrolau barddoniaeth Cymraeg a enwebwyd yw:
- Bylchau, Aneirin Karadog
- Chwilio am D芒n, Elis Dafydd
- Llinynnau, Aled Lewis Evans
Yn y categori ffuglen y cyfrolau a ddaeth i'r brig yw:
- Y Gwreiddyn, Caryl Lewis
- Ymbelydredd, Guto Dafydd
- Iddew, Dyfed Edwards
Ac yn cystadlu am y wobr ffeithiol greadigol mae tair cyfrol am dri bardd sef:
- Gwenallt, Alan Llwyd
- Optimist Absoliwt, Menna Elfyn
- Cofio Dic, Idris Reynolds
Y panel beirniadu Cymraeg eleni oedd y beirniad llenyddol Catrin Beard, y bardd a'r awdur Mari George ac Eirian James, perchennog siop lyfrau yng Nghaernarfon.
Dywedodd Catrin Beard: "Cafwyd llawer o drafod, ac roedd gan bob un ohonon ni ein ffefrynnau.
"Trueni mai ond tri ym mhob categori sy'n cael bod ar y Rhestr Fer achos mae rhai eraill teilwng iawn wedi gorfod cael eu hepgor."
Yn ystod y misoedd diwetha mae cryn drafodaeth wedi bod ar y wobr wrth i'r Gweinidog Economi Ken Skates awgrymu trosglwyddo cyfrifoldeb Llyfr y Flwyddyn i'r Cyngor Llyfrau fel rhan o ad-drefnu ariannu diwylliant.
Mae Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi beirniadu'r argymhellion ac wythnos diwethaf bu cadeirydd yr adolygiad dadleuol, yr Athro Medwin Hughes, yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
Mae gan Gwobr Llyfr y Flwyddyn dri chategori sef Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol.
Yn Saesneg y rhai a fydd yn cystadlu am Wobr Farddoniaeth Roland Mathias yw:
- What Possessed Me, John Freeman
- The Other City, Rhiannon Hooson
- Psalmody, Maria Apichella
Yn y categori ffuglen y rhai sydd wedi dod i'r brig yw:
- Pigeon, Alys Conran
- Cove, Cynan Jones
- Ritual, 1969, Jo Mazelis
Ac yn cystadlu am y Wobr Ffeithiol Greadigol fe fydd:
- The Tradition, Peter Lord
- Jumpin' Jack Flash, Keiron Pim
- The Black Prince of Florence, Catherine Fletcher
Wrth gyhoeddi'r rhestr fer dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: "Gyda'r cyhoeddiad yn digwydd yn ystod Wythnos y Llyfrgelloedd, gobeithiwn y bydd darllenwyr yn heidio i'w llyfrgell leol ac yn bachu ar y cyfle i fenthyca'r teitlau arbennig hyn, a phrofi cyfoeth ac amrywiaeth llenyddiaeth gyfoes Gymreig."
Bydd enillwyr y wobr yn cael eu cyhoeddi mewn Seremoni Wobrwyo yn y Tramshed, Caerdydd ar nos Lun 13 Tachwedd.
Bydd enillydd pob categori yn derbyn gwobr o 拢1,000, ac fe gyflwynir gwobr ychwanegol o 拢3,000 i brif enillydd y wobr yn y ddwy iaith.
Fe fydd modd dilyn y seremoni ar lif byw arbennig Cymru Fyw o'r noson.