Cartref y goron

Roedd ennill Coron Eisteddfod Ynys M么n ym mis Awst yn 2017 yn foment bwysig i Gwion Hallam ac mae'n ddiolchgar iawn i drigolion cartre' henoed yng Ngwynedd am ysbrydoli ei bryddest fuddugol.

Yn dilyn ei lwyddiant yn y Brifwyl aeth Gwion, sy'n byw yn Y Felinheli ond yn wreiddiol o Rydaman, yn 么l i gartref Bryn Seiont Newydd yng Nghaernarfon sydd yn rhan o sefydliad gofal Parc Pendine.

Mae dementia ar rai o'r preswylwyr a bu Gwion yn gweithio ar brosiect creu cerddi gyda nhw cyn iddo ddechrau saern茂o'r gerdd fyddai'n dod 芒 llwyddiant iddo ym Modedern.

Bu'r Prifardd Gwion Hallam yn rhannu ei brofiadau o gydweithio gyda thrigolion Bryn Seiont gyda Cymru Fyw:

Es i n么l i weld y trigolion rhyw wythnos wedi'r Eisteddfod, ac oedd e'n hyfryd cael mynd yno efo'r goron i ddangos iddyn nhw. Mae'r goron mewn bocs, wedyn oedd y trigolion yn meddwl mai cacen oedd ynddi i ddweud y gwir - felly roedd hynny'n dipyn o siom iddyn nhw! Ond roedd y bobl o'n i wedi bod yn gweithio gyda dal yno, ac roedd hi'n neis iawn eu gweld nhw a rhannu'r peth efo nhw.

O'n i'n eithaf ansicr am fynd yno ar ddechrau'r prosiect i ddweud y gwir, gan deimlo mod i ddim yn gymwys a heb y profiad perthnasol, ond fe wnaeth fy mherswadio i fynd, a dwi'n falch ofnadwy am hynny.

Bywydau llawn

Fues i mewn dau gartref gwahanol, a tan i mi wneud y gwaith yma dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf doedd gen i ddim profiad personol o rywun gyda dementia. Doeddwn i heb fod i gartref henoed, heb s么n am gartref dementia ers blynyddoedd lawer.

Roedd hi'n rhywbeth gwerthfawr i mi heb s么n am y sgwennu ac rwy'n credu bydde fe'n dda i fwy ohonom ni i ymweld 芒 phobl sydd wedi, neu yn datblygu dementia. Maen nhw'n nhw'n bobl sydd 芒 bywydau llawn fel ni, ond bod eu bywydau wedi mynd yn anoddach mewn cymaint o ffyrdd ac mae'n rhywbeth sy'n mynd i gyffwrdd nifer ohonom ni yn y dyfodol.

Does dim gwella o'r cyflwr, a dydi barddoni a chanu ddim yn newid y salwch wrth gwrs, ond yn yr un ffordd mae barddoniaeth neu lenyddiaeth neu gelf yn gallu'n helpu ni gyd i drio deall a dygymod 芒'r byd yma. Ond roedd hi just yn braf cael treulio amser gyda'r bobl 'ma.

Mae amrywiaeth eang yng nghyflwr y bobl sydd yno. Mae rhai sydd yno sy'n dechrau dygymod gyda dementia, ac eraill sy'n hwyrach yn y broses yna gyda'r cyflwr wedi datblygu ymhellach.

Disgrifiad o'r llun, Gwion yn ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Ynys M么n, Awst 2017

'Pam bod gen ti goron?'

Roedd rhai yno'n deall yn iawn ac wrth eu boddau 'mod i wedi ennill y goron, ond mae ennill coron yn eitha' swrealaidd. Mae'r mab Nedw yn gofyn 'pam bod gen ti goron?' gan feddwl bod o ddim yn gwneud lot o synnwyr, mae'n deall ennill g锚m b锚l-droed, ond mae ennill cadair a choron yn draddodiad mor unigryw beth bynnag.

Pan o'n i yna gyntaf nid gwneud cerdd i gystadlu oedd y nod - roedd y gwaith i'w wneud 芒 'sgwennu eu cerddi nhw, felly pan es i n么l ges i'r cyfle i holi nhw am bethe.

Mi wnes i gwrdd 芒 nifer o aelodau o deuluoedd y bobl yma, ac roedden nhw'n s么n bod y cerddi gafodd eu creu fyny yn eu stafelloedd nhw, neu mae rhai wedi mynd 芒 chopi adre o gerddi mam, tad neu bartner. Hynny 'di'r peth gorau i ddweud y gwir, bod y bobl yma wedi gallu creu cerddi eu hunan.

Cadw'r meddwl i droi

O'n i'n teimlo'n ansicr ar adegau, gan feddwl sut mae barddoniaeth, o bopeth, yn mynd i helpu pobl sydd efallai yn ei chael hi'n anodd trin geiriau beth bynnag? Ond roedd y gofalwyr yn dweud ei fod yn bwysig i'r bobl sydd 芒 dementia, pan mae'n bosib, i gadw'n actif ac i gadw eu meddyliau i droi, ond dwi ddim yn gwybod os yw barddoniaeth yn helpu. Dwi ddim yn credu bod e'n arafu'r salwch, ond eto ma'n dda i gadw'r meddwl yn effro.

Ond dydi barddoniaeth ddim i bawb wrth gwrs, ac roedd ambell un ddim ishe gwneud dim 芒'r peth ac roedd popeth yn iawn gyda hynny, wedi'r cwbl dyw rhywun efallai ddim am ddatblygu diddordeb yn syth pan maen nhw'n h欧n os oedd dim diddordeb ynghynt.

Delio gyda bywyd

Doedd 'na ddim nod i sicrhau bod pob unigolyn ro'n i wedi treulio amser gyda nhw wedi creu cerdd ar ddiwedd y prosiect. Mewn ambell i achos doedd yna ddim beth fydde rhywun mewn ystyr cul yn ei diffinio yn gerdd.

Roedd y broses yn bwysicach na'r canlyniad mewn ffordd - y cyfnod roedden ni'n ei dreulio yn creu, a'r siarad a'r meddwl a chwerthin - hwnna oedd y nod.

Byw yn y presennol ydyn ni gyd, a 'na'i gyd allen ni wneud. Nid rhoi mewn i'r clefyd, ond eto delio gyda fe a byw gyda dementia, a rhan o fyw yw bod yn greadigol, boed hynny drwy goginio neu greu cerddi neu rywbeth arall.

Mae'n ffordd o ddelio gyda bywyd, dathlu a cheisio deall bywyd, o alaru, o garu - 'da ni'n gwneud y pethe 'ma weithia mewn ffordd greadigol ac mae creadigrwydd yn rhan o hyn i ni, a does ddim ishe i hynny stopio pan fo dementia'n dod.