Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cairns: 'Angen datganoli pwerau y tu hwnt i Gaerdydd'
Dylai Llywodraeth Cymru basio mwy o bwerau i ranbarthau Cymru yn hytrach na rheoli popeth o Gaerdydd, yn 么l Ysgrifennydd Cymru.
Ar drothwy 20 mlynedd ers y refferendwm wnaeth greu'r Cynulliad, dywedodd Alun Cairns fod gormod o rym wedi ei "ganoli" yn y brifddinas.
Mae angen i Gymru ymateb i'r her sydd yn ei hwynebu gan feiri etholedig newydd ym Manceinion, Bryste a Glannau Mersi, meddai.
Ychwanegodd fod etholwyr bellach yn derbyn y Cynulliad fel rhan o'r dirwedd wleidyddol, er na fyddai'n rhan fwyaf yn "caru" y sefydliad.
Cystadleuaeth
Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal o amgylch Bae Caerdydd ddydd Llun i nodi'r garreg filltir, wedi i Gymru bleidleisio yn 1997 o fwyafrif bychan - dim ond 6,721 pleidlais o gyfanswm o 1,116,116 - i greu'r Cynulliad.
Dywedodd Mr Cairns - oedd yn Aelod Cynulliad cyn symud i San Steffan - fod creu meiri newydd yn Lloegr yn golygu angen tebyg i symud pwerau allan o Gaerdydd.
"Mae'n deg dweud fod datganoli pwerau o Whitehall i ddinasoedd Lloegr wedi creu deinameg newydd, ac mae angen i Gymru ymateb i'r her," meddai.
"Byddai canoli pwerau ym Mae Caerdydd ddim yn rhoi lle i bolisi ddatblygu yn Wrecsam, er enghraifft, o ganlyniad i gystadleuaeth neu bwysau economaidd ychwanegol o Fanceinion neu Lannau Mersi.
"Dyw canoli grym yng Nghaerdydd ddim yn ateb anghenion pob rhan o Gymru.
"Felly mae'n bosib y bydd angen mwy o ddatganoli i awdurdodau lleol, i unigolion ar draws Cymru yn hytrach na'u cadw ym Mae Caerdydd bob cam o'r ffordd."
Mae Bryste wedi bod 芒 maer etholedig ers 2012, gyda meiri rhanbarthol newydd ar gyfer Glannau Mersi a Manceinion yn cael eu creu eleni.
Mae gan y meiri rhanbarthol hynny bwerau dros faterion fel tai, cynllunio a thrafnidiaeth.
'Neb yn cwestiynu'
Dywedodd Mr Cairns nad oedd unrhyw awgrym bellach y dylid diddymu'r Cynulliad, er gwaethaf beirniadaeth o record Llywodraeth Cymru ar faterion fel safonau addysg ac amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd.
"Mae pobl yn iawn i dderbyn y Cynulliad fel rhan o'r dirwedd wleidyddol," meddai Ysgrifennydd Cymru.
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n deg dweud na fydd y cyhoedd fyth yn caru unrhyw sefydliad gwleidyddol neu sefydliad unrhyw fiwrocratiaeth, a dyna'n amlwg sydd ei angen er mwyn darparu'r agenda datganoli.
"Ond does neb yn cwestiynu'r sefydliad ei hun. Wrth gwrs fod beirniadaethau, ac mae'n beth da fod hynny'n cadw gwleidyddion o bob lliw ar flaenau eu traed."
Dywedodd ei fod yn beth "iach" fod yna wleidyddion sydd wedi gwasanaethu yn y Cynulliad ac yn San Steffan dros y ddau ddegawd diwethaf.
Roedd Mr Cairns ei hun yn AC dros Orllewin De Cymru rhwng 1999 a 2011, ac mae wedi bod yn AS dros Fro Morgannwg ers 2010.
"Dyw ychydig o gystadleuaeth ddim yn gwneud unrhyw niwed," meddai.
"Dwi'n meddwl y bydd busnesau a phobl yng Nghymru yn elwa pan fydd gwleidyddion yn chwarae rhan actif yn y ddau le."
'Consensws eang'
Yn y cyfamser mae disgwyl i'r Prif Weinidog Carwyn Jones ddweud wrth gynulleidfa yng Nghaerdydd ddydd Llun fod Cymru'n "genedl sydd wedi'i thrawsnewid" o ganlyniad i refferendwm 1997.
Bydd yn dweud: "Bob dydd dwi'n gweld cenhedlaeth o bobl ifanc sydd yn eofn, addysgedig ac wedi'u gwreiddio yng Nghymru, ac sy'n credu fod y dyfodol yn berchen iddyn nhw, a bod y byd yno i'w choncro.
"Mae'n newid byd llwyr o'i gymharu 芒'r gorffennol, mae wedi cymryd gwaith caled i'w ennill, ac mae'n rhaid adeiladu arno.
"Mae'r fuddugoliaeth agos honno yn 1997 bellach wedi blaguro i fod yn gonsensws eang - ein Cynulliad ni yw'r haen o lywodraeth y mae gan bobl y wlad hon fwyaf o hyder ynddi."