Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Crefftwr o'r Rhondda i greu cadair Eisteddfod 2018
Crefftwr o'r Rhondda sydd wedi cael ei ddewis i greu cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.
Chris Williams, o Pentre ger Treorci, fydd yn dylunio prif wobr y Brifwyl.
Mae'n gerflunydd sy'n gweithio'n bennaf gyda phren, ac yn cymryd ysbrydoliaeth o dirluniau daearol a seryddol.
Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan sydd wedi dewis Mr Williams, wrth iddyn nhw noddi'r gadair i ddathlu pen-blwydd y sefydliad yn 70 oed.
Bydd Mr Williams yn creu rhai rhannau o'r gadair yn y gweithdy yn Sain Ffagan, gan roi cyfle i ymwelwyr ddilyn y gwaith.
Dywedodd yr amgueddfa bod noddi'r gadair yn 2018 yn "ddathliad addas" o'i sefydlu yn 1948, gyda gobaith y bydd y gwaith yn "cysylltu 芒 Sain Ffagan mewn rhyw fodd".
Fe ddywedodd Mr Williams y byddai'r cyswllt 芒'r amgueddfa "yn gweddu'n dda" i'r gwaith mae'n ei wneud am "ddyluniadau traddodiadol Cymreig".