Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyrraedd targed ailgylchu pedair blynedd yn gynnar
Mae targed o ailgylchu 64% o wastraff yng Nghymru erbyn 2019/20 wedi cael ei gyrraedd pedair blynedd yn gynnar.
Mae data dros dro ar gyfer y 12 mis hyd at Fawrth 2017 yn dangos cynnydd o 4% o'i gymharu 芒 chyfradd y flwyddyn flaenorol - 60%.
Mae Cymru ar y blaen i weddill y DU gyda'i chyfradd ailgylchu, yn ail yn Ewrop ac yn drydydd trwy'r byd.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Lesley Griffiths, bod y ffigyrau yn "galonogol iawn".
Dim gwastraff erbyn 2025
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau statudol ar gyfer ailgylchu, ac mae'n rhaid i gynghorau eu cyrraedd neu wynebu dirwyon.
Y targed ar gyfer 2016/17 oedd 58%, yn codi i 64% erbyn 2019/20 a 70% yn 2024-25.
Erbyn 2050 mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio na fydd unrhyw wastraff o gwbl yn mynd i gladdfeydd sbwriel.
Mae'r ffigyrau dros dro yn dangos bod pob cyngor heblaw un - Blaenau Gwent - wedi cyrraedd y targed ar gyfer 2016/17.
Ceredigion oedd 芒'r gyfradd uchaf, gan ailgylchu 70% o'i wastraff a chyrraedd targed 2025 naw mlynedd yn gynnar.
Wrecsam a Sir Fynwy oedd yn yr ail safle ar 69%.
Er i Blaenau Gwent fethu'r targed o 58%, roedd eu cyfradd (57%) yn gynnydd sylweddol o'r flwyddyn flaenorol (49%).
'Arwain y ffordd'
Dywedodd Mr Griffiths y dylai Cymru fod yn "falch iawn o'n perfformiad ailgylchu".
"Mae hwn yn ardal ble ry'n ni'n arwain y ffordd yn y DU, ac yn wir, dim ond dwy wlad yn yr holl fyd sy'n ailgylchu mwy na ni," meddai.
Mae ffigyrau o 2015 yn dangos bod cyfradd ailgylchu Lloegr ar 43.9% a'r Alban ar 44.2%.