Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Shwmae cyw!
O 4 Medi bydd yna gyflwynydd newydd yn y nyth i ddifyrru plantos bach Cymru bob bore ar wasanaeth Cyw ar S4C.
Mae Elin Haf yn wreiddiol o Faesycrugiau ger Llanybydder, Sir G芒r, ac fe gafodd ei haddysg yn Ysgol Llanllwni a Trefilan, ac Ysgol Gyfun Llanbedr-Pont Steffan.
Ar 么l astudio Cymraeg a Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth gweithiodd fel ymchwilydd ar y gyfres Ffermio.
Mae Elin yn dweud ei bod yn gwireddu breuddwyd.
"Dwi wedi dyheu i fod yn gyflwynydd plant ers pan oeddwn i'n ddim o beth - o'n i'n joio pob eiliad o Slot Meithrin a Planed Plant!
"Dwi eisiau gwneud yn si诺r bod plant Cymru yn cael yr un profiadau a sbort ag y ces i flynyddoedd yn 么l wrth wylio'r teledu."
Eisoes mae ganddi hi brofiad o weithio ym maes rhaglenni plant gan ei bod hi wedi ymchwilio ar raglenni fel Stwnsh Sadwrn, Dona Direidi a Chwarter Call.
Yn fwy diweddar, mae Elin wedi bod yn gweithio fel is-gynhyrchydd ar gyfres Tag.
"O'n i wedi cyffroi'n l芒n pan glywes i fy mod i wedi cael y swydd cyflwyno!" meddai. "O'dd hi'n anodd iawn cadw'r gyfrinach ar y dechrau gan fy mod i'n gweithio ar raglenni Stwnsh - sydd yn yr un swyddfa 芒 Cyw!"
Gwyliwch Elin bob bore ar Cyw, S4C o ddydd Llun, 4 Medi, 06:00