Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
AC Plaid yn ystyried arwain pan fydd Wood yn gadael
Mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud y gallai sefyll am arweinyddiaeth Plaid Cymru pan fydd Leanne Wood yn camu o'r neilltu.
Fe wnaeth AC Ynys M么n y sylwadau yn ystod sgwrs ym mhabell Radio Cymru ar faes yr Eisteddfod ym Modedern.
Mynnodd fodd bynnag nad oedd ganddo uchelgais ar hyn o bryd i fod yn arweinydd.
Yn dilyn ei sylwadau mae ffynhonnell arall o fewn Plaid Cymru - Aelod Cynulliad oedd am aros yn anhysbys - wedi galw am her i'r arweinyddiaeth ac i Leanne Wood sefyll o'r neilltu.
Dywedodd yr AC: "Mae angen her i arweinyddiaeth y blaid. Roedd canlyniad yr etholiad o dan Leanne yn siomedig.
"Os ydyn ni am symud ymlaen fel plaid, mae'n bryd i Leanne gamu o'r neilltu. Mae hi wedi colli'i hawdurdod yn y gr诺p a bellach does ganddi ddim rheolaeth o'r hyn y mae'r gr诺p yn ei wneud."
Ychwanegodd yr aelod fod uchelgais arweinyddol Rhun ap Iorwerth "wedi bod yn glir ers peth amser".
Gwrthododd llefarydd ar ran Plaid Cymru 芒 gwneud sylw.
'Bosib iawn'
Yn y sgwrs gyda Dewi Llwyd, dywedodd Rhun ap Iorwerth hefyd y dylai Plaid Cymru ystyried clymblaid gyda Llafur petai'r "amgylchiadau" yn iawn, ond nad oedd y sefyllfa bresennol yn galw am hynny.
Yn ystod y sgwrs, gofynnodd y cyflwynydd Dewi Llwyd a oedd ganddo fwriad sefyll i fod yn arweinydd unwaith y byddai'r swydd yn dod yn wag.
"Bosib iawn, pwy a 诺yr," meddai Rhun ap Iorwerth, sydd wedi bod yn Aelod Cynulliad ers 2013.
"Ond dydi o ddim yn rhywbeth dwi ar frys i wneud."
Cyfaddefodd hefyd fod ganddo uchelgais i fod yn brif weinidog Cymru yn y dyfodol.
"Mi fyddai cael bod yn brif weinidog ar fy ngwlad fy hun, wrth gwrs, yn rhywbeth fyswn i wrth fy modd yn gwneud, pwy fyddai ddim," meddai.
Dywedodd fodd bynnag ei fod yn hyderus fod Plaid Cymru wedi gwneud y penderfyniad iawn wrth beidio 芒 cheisio mynd i glymblaid gyda Llafur yn dilyn yr etholiadau diwethaf yn 2016.
"Ar hyn o bryd 'dan ni'n gwneud y peth iawn i fod yn wrthblaid," ychwanegodd.
Cafodd Rhun ap Iorwerth ei ethol yn Aelod Cynulliad Ynys M么n yn 2013, yn dilyn ymadawiad cyn-arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones.
Dadansoddiad Gohebydd Gwleidyddol 91热爆 Cymru, Tomos Livingstone
Mae'n her i bob gwleidydd uchelgeisiol - sut i ffeindio ffordd o ateb cwestiynau yngl欧n 芒'r uchelgais honno heb, a dweud y gwir, ateb y cwestiwn o gwbl.
Michael Heseltine wnaeth ffafrio'r geiriad "no current plans" i ateb pob cwestiwn tebyg, ac, yn Saesneg o leiaf, dyma'r ffordd gliriaf o ddweud ie a na ar yr un pryd.
Yr opsiwn arall yw troi'r cwestiwn ar ei ben - wrth gwrs, pwy na fyddai'n dymuno arwain fy mhlaid/fy nghenedl?
Dyma'r trywydd wnaeth Rhun ap Iorwerth ddilyn ym Modedern y bore 'ma; mantais yr opsiwn yma yw gonestrwydd (ac mae gwell gan bawb wleidydd gonest, yn does?), ond mae'r anfantais yn weddol amlwg - mae'n awgrymu fod disgwyl i'r deiliad adael ei swydd cyn hir.
Ai dyna fwriad Leanne Wood? Y gwir amdani yw na fydd etholiad Cynulliad tan 2021, ac mae 'na ddigon o amser iddi hi (a'i phlaid) benderfynu os taw aros a rhoi cynnig arall arni yw'r opsiwn orau, neu i ildio'r awenau.
Y risg i Rhun ap Iorwerth yw bod siarad mor agored am yr arweinyddiaeth yn cael ei ddehongli fel diffyg teyrngarwch, a bod hynny'n codi gwrychyn selogion y blaid yn hollol ddiangen. Ar y llaw arall, wnaeth "no current plans" ddim gweithio, yn y pen draw, i Michael Heseltine chwaith.
Fe gafodd y sgwrs ei recordio ar gyfer Rhaglen Dewi Llwyd ar 91热爆 Radio Cymru a fydd yn cael ei darlledu ar fore Sul, 27 Awst.