Tommo n么l ar yr awyr wedi ymchwiliad i sylwadau

Mae 91热爆 Cymru wedi cadarnhau y bydd y cyflwynydd radio Andrew 'Tommo' Thomas yn dychwelyd i'w raglen ddyddiol ar Radio Cymru.

Daw hynny yn dilyn cyfnod oddi ar yr awyr wrth i ymchwiliad gael ei gynnal i gwyn yn ei erbyn.

Roedd y gwyn yn deillio o sylwadau a wnaeth Tommo yn ystod G诺yl N么l a Mla'n yn Llangrannog ar benwythnos 7 ac 8 Gorffennaf, ac nid unrhyw beth gafodd ei ddweud ar yr awyr.

Dywedodd llefarydd ar ran 91热爆 Cymru: "Yn dilyn ymchwiliad mewnol, mae Tommo wedi ysgrifennu at drefnwyr G诺yl N么l a Mlan i ymddiheuro yn ddiamod am yr hyn a ddywedodd tra'n cyflwyno.

"Mae'r 91热爆 yn cymryd cwynion fel hyn o ddifrif ac wedi cymryd camau priodol yn dilyn yr ymchwiliad.

"Fe fydd Tommo yn dychwelyd i gyflwyno ei raglen ddyddiol yr wythnos nesaf."