Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Yr Aelod Seneddol, Paul Flynn, wedi marw yn 84 oed
Mae'r Aelod Seneddol Paul Flynn wedi marw yn 84 oed.
Bu'n cynrychioli'r Blaid Lafur yng Ngorllewin Casnewydd am dros 30 mlynedd.
Bu'n dioddef am flynyddoedd o gyflwr arthritis ac ym mis Hydref 2018 fe gyhoeddodd ei fwriad i gamu lawr fel AS oherwydd ei iechyd.
Dywedodd ar y pryd ei fod hefyd wedi dioddef o pernicious anaemia ac wedi bod yn gaeth i'w wely.
Yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn weriniaethwr balch, cafodd Paul Flynn ei eni a'i fagu yng Nghaerdydd.
Roedd yn llais amlwg ym meinciau cefn TÅ·'r Cyffredin gan ymgyrchu'n gryf dros - ymhlith materion eraill - hawliau pobl i gymryd cyffuriau am resymau meddygol, budd-daliadau a datganoli.
Roedd yn flogiwr pybyr, yn awdur ac yn ddefnyddiwr rheolaidd o Twitter.
Cafodd Mr Flynn ei ethol am y tro cyntaf yn 1987 ac fe wnaeth amddiffyn ei sedd am saith etholiad yn olynol.
Ond roedd yn absennol o ran helaeth o drafodaethau'r Senedd oherwydd ei frwydr â chyflwr rheumatoid arthritis tuag at ddiwedd ei gyfnod fel AS.
Yn rhoi teyrnged i Mr Flynn, fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ei ddisgrifio fel "un o gewri mudiad Llafur Cymru".
"Roedd yn un o gyfathrebwyr mwyaf effeithiol ei genhedlaeth - yn NhÅ·'r Cyffredin a'r tu allan," meddai.
"Ond parodrwydd Paul i siarad dros achosion y tu hwnt i'r prif feysydd gwleidyddol oedd yn tynnu sylw ato fel gwleidydd hynod ddewr a didwyll.
"Fe wnes i ei gyfarfod am y tro cyntaf fwy na 35 o flynyddoedd yn ôl ac mae wedi bod yn fraint gweithio ag ef, yn ystod y cyfnod yn arwain at oes datganoli a thu hwnt."
'Cariad at Gasnewydd'
Fe wnaeth arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, ddisgrifio Mr Flynn fel "cyfaill agos".
"Roedd ganddo gymaint o gariad tuag at Gasnewydd, gwybodaeth o hanes radical De Cymru a hiwmor sych," meddai.
"Roedd â meddwl annibynnol ac yn glod i'r Blaid Lafur. Bydd yn golled fawr."
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter, 1
Ar y Post Cyntaf, dywedodd AS Ynys Môn Albert Owen, ei fod yn "drist iawn, wedi colli ffrind" a "dyn annwyl, annwyl iawn".
"Pan oedd o'n sefyll i fyny oedd pobl yn gwrando arno fo, achos oedd o'n dod i fyny 'efo rwbeth newydd ar y pwnc, ac yn berfformiwr da."
'Arwr o wleidydd'
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns ei fod "wastad wedi cael perthynas gyfeillgar" â Mr Flynn.
"Roedd yn AS gwych yn ei etholaeth ac roedd hi'n anrhydedd gweithio gydag ef yn cymryd Mesur Cymru trwy'r Senedd pan oedd yn llefarydd ei blaid dros Gymru," meddai.
Ychwanegodd Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville-Roberts ei fod yn "arwr o wleidydd a Chymro twymgalon, croesawgar", wnaeth roi "llais i'r rhai heb lais".
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter, 2