Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cylch haearn a buddsoddiad 拢630,000 i gastell Y Fflint
Bydd cerflun o gylch haearn yn rhan o fuddsoddiad gwerth 拢630,000 ar gyfer castell Y Fflint.
Mae'r cerflun, fyddai'n 7m (23 troedfedd) o uchder a 30m (98 troedfedd) o led, yn symbol o goron wedi rhydu.
Mae ei leoliad yn Y Fflint yn nodi trosglwyddo'r goron o un llinach ganoloesol i un arall - digwyddiad sy'n cael ei ddisgrifio yn nrama Richard II gan Shakespeare.
Castell Fflint oedd y lleoliad wrth i Richard II ildio'r goron i Harri IV, digwyddiad sy'n cael ei weld fel un gafodd gryn effaith ar hanes Prydain ac Ewrop.
Pan fydd yn agor yn 2018, bydd ymwelwyr yn gallu cerdded ar hyd y cerflun gwerth 拢395,000.
'Hawdd i'w adnabod'
Cafodd y cynllun buddugol ei ddewis gan banel ar ran Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, wedi i gystadleuaeth genedlaethol gael ei chynnal.
Bydd geiriau a dywediadau wedi'u dewis gan y gymuned leol yn cael eu cerfio ar y cerflun.
Dywedodd George King o gwmni'r penseiri sy'n gyfrifol am y cynllun y byddai ei "faint a'i olwg ddynamig yn golygu y bydd yn dirnod fydd yn hawdd i'w adnabod yn yr ardal".
Mae'r newidiadau eraill i'r castell yn cynnwys gosod grisiau troellog dur yn y t诺r gogledd-ddwyreiniol.
Wrth ddadorchuddio'r cynllun dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates: "Mae'n bleser mawr cyhoeddi'r cynlluniau i helpu gwella profiad ymwelwyr yn y safle hwn sy'n llawn hanes, a hynny yn ystod Blwyddyn Chwedlau Cymru."