Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
AC UKIP yn defnyddio iaith hiliol wrth s么n am AS Llafur
Mae Aelod Cynulliad UKIP wedi cael ei recordio yn defnyddio term hiliol wrth s么n am Aelod Seneddol tra'n sgwrsio ar y ff么n gyda chyn-aelod o staff.
Cafodd AC rhanbarth Gogledd Cymru, Michelle Brown ei recordio yn dweud sylwadau sarhaus am AS Llafur ar gyfer Streatham, Chuka Umunna, mewn galwad ff么n yn Mai 2016 i Nigel Williams, oedd ar y pryd yn gweithio i Ms Brown fel uwch ymgynghorydd.
Mae Ms Brown wedi ymddiheuro gan ddweud bod ei hiaith yn "anaddas".
Fe gafodd Mr Williams ei ddiswyddo gan Ms Brown yn ddiweddar.
Mae Ms Brown, wnaeth alw Mr Umunna yn "goconyt", hefyd wedi cael ei recordio yn defnyddio term sarhaus yn erbyn AS canol Stoke-on-Trent ar y pryd, Tristram Hunt.
Mewn datganiad dywedodd Ms Brown: "Y pwynt yr oeddwn yn ceisio ei wneud oedd oherwydd ei fraint a'i gyfoeth aruthrol does dim posib i Chuka Umunna ddeall mwy na minnau am y problemau y mae'r person du cyffredin yn wynebu yn y wlad yma, ac rwy'n sefyll yn bendant yn hynny o beth.
"Fodd bynnag rwy'n derbyn bod yr iaith a ddefnyddiais yn y sgwrs breifat yn anaddas ac rwy'n ymddiheuro i unrhyw un os wyf wedi creu loes.
"Cyn belled 芒'r iaith a ddefnyddiais am Mr Hunt, roedd yn sgwrs breifat ac roeddwn yn defnyddio iaith mae ffrindiau a chyd-weithwyr yn ei ddefnyddio wrth sgwrsio gyda'i gilydd."
'Hiliaeth ffiaidd'
Mae llefarydd ar ran gr诺p y Blaid Lafur yn y Cynulliad wedi ymateb drwy ddweud: "Mae defnyddio iaith fel hyn yn warthus ac yn dangos yn glir yr hiliaeth ffiaidd sydd yng nghalon UKIP.
"Bydd unrhyw beth llai na gwaharddiad yn syth yn arwydd o gymeradwyaeth o sylwadau hiliol Michelle Brown."
Mae sylwadau Ms Brown wedi cael eu cyfeirio at gomisiynydd safonau'r Cynulliad.
Mae Mr Williams wedi ymateb drwy ddweud ei fod yn credu dylai Ms Brown ymddiswyddo ac y dylai pwyllgor gwaith cenedlaethol UKIP ei diarddel o'r blaid.
"Dylai pobl ddim disgwyl clywed unrhyw un yn dweud rhywbeth fel hyn, yn enwedig rhywun yn ei sefyllfa hi, mae'n warthus," meddai.
"Dydy Michelle Brown ddim ffit ar gyfer y swydd yn dweud pethau fel hyn. Dylai pencadlys UKIP wneud y peth cywir. Tydi'r blaid ddim eisiau pobl gydag agweddau fel hyn yn rhan o'r blaid."
"Roeddwn yn meddwl ein bod wedi rhoi iaith hiliol y tu 么l i ni fel plaid," meddai AC UKIP, David Rowlands.
"Mae'n sylw anaddas - yn bendant dim y math o iaith y byddwn i yn ei ddefnyddio.
"Ond, mae'n benbleth i mi sut y gall rhywun recordio a rhyddhau galwad breifat heb i'r person arall fod yn gwybod."
'Dim goddefiant o hiliaeth'
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: "Mae'r hiliaeth yma yn adlewyrchu'n wael ar ein senedd - Cynulliad Cenedlaethol Cymru - a dyna pam y dylai ei phlaid weithredu ar hyn.
"Na i hiliaeth yn ei holl ffurfiau. Dim goddefiant o hiliaeth yn ein Cynulliad."
Nid dyma'r sefyllfa ddadleuol gyntaf i Ms Brown wynebu.
Ym mis Chwefror roedd rhaid iddi wadu ei bod wedi ysmygu "cyffuriau meddal" mewn ystafell westy ym Mae Caerdydd.
Dywedodd llefarydd ar ei rhan bod yr arogl wedi'i achosi gan Ms Brown yn ysmygu "cynnyrch tybaco gydag arogl cryf".