Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cefnogi gorsaf drenau £30m yn nwyrain Caerdydd
Mae gorsaf drenau newydd a maes parcio gwerth £30m yn nwyrain Caerdydd wedi derbyn sêl bendith gan Lywodraeth y DU.
Bydd yr orsaf newydd yn Llaneirwg yn gwasanaethu parc busnes yn ogystal â 32,000 o breswylwyr.
Bydd proses gynllunio swyddogol gan Gyngor Caerdydd yn dechrau ddydd Gwener.
Mae datblygwyr yn credu bydd y datblygiad yn lleihau taith person i ganol y ddinas o awr i tua chwe munud.
Dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU, Chris Grayling AS, bydd yn "gweithio gyda hyrwyddwyr y cynllun wrth iddynt ddatblygu eu cynlluniau i'r cam nesaf".
Bydd gorsaf Llaneirwg yn cynnig:
- Cysylltiadau cyflym i orsaf Caerdydd Canolog, gyda threnau yn cyrraedd mewn chwech i saith munud,
- Potensial ar gyfer cysylltiad i Faes Awyr Caerdydd,
- Llefydd parcio i 4,000 o geir fydd yn costio £5 y dydd,
- Potensial i bobl ddefnyddio'r trenau i leihau'r prysurdeb yng nghanol y ddinas yn ystod digwyddiadau mawr,
- Bydd trenau o Birmingham ac o harbwr Portsmouth yn gallu stopio yn yr orsaf, posib bydd trên pob hanner awr o Lyn Ebwy,
- Gobaith bydd trenau cyflym i Lundain yn stopio yno yn y dyfodol,
- Cynlluniau i'w hychwanegu at fap Metro de Cymru, gyda thrên yn stopio ar Heol Casnewydd ar ei ffordd i ganol y ddinas,
- Bydd yr orsaf yn cynnwys lle i adael beiciau, safle bysiau a safle tacsi.
Mae'r datblygiad wedi dod yn sgil gwrthod y syniad o drydaneiddio'r brif lein rhwng Caerdydd ac Abertawe.
Mae disgwyl i'r orsaf gostio £17m, a'r maes parcio yn costio £12m, mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau yn 2020.
Dywedodd cyfarwyddwr Cardiff Parkway Developments, Andrew Roberts: "Rydym yn gobeithio dechrau ar y gwaith mewn blwyddyn.
"Mae 'na lawer o waith cynllunio a chaniatáu, ond mae popeth yn edrych yn bositif."