Ymchwilio i gwyn yn erbyn cyflwynydd Radio Cymru, Tommo

Ni fydd cyflwynydd 91热爆 Radio Cymru, Andrew Thomas, neu Tommo, yn darlledu ar yr orsaf am gyfnod yn dilyn cwyn yn ei erbyn.

Mae 91热爆 Cymru ar ddeall bod y gwyn yn deillio gan aelod o'r cyhoedd, ac yn ymwneud 芒 sylwadau honedig gafodd eu gwneud gan y cyflwynydd mewn g诺yl gerddorol, ac nid unrhywbeth gafodd ei ddweud ar ei raglen.

Roedd Tommo yn un o'r cyflwynwyr fu'n annerch y torfeydd yn ystod G诺yl N么l a Mla'n yn Llangrannog ar benwythnos 7 ac 8 Gorffennaf.

Dywedodd llefarydd ar ran 91热爆 Radio Cymru: "Rydym wedi derbyn cwyn ac yn ymchwilio i'r mater.

"Tra bo'r ymchwiliad yn parhau, ni fydd Tommo yn darlledu ar 91热爆 Radio Cymru."

Nid oedd Tommo am wneud sylw ar y mater.