Llenyddiaeth Cymru wedi'u 'cythruddo' gan adolygiad

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

  • Awdur, Huw Thomas
  • Swydd, Gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau 91热爆 Cymru

Mae cadeirydd Llenyddiaeth Cymru yn dweud eu bod wedi'u "cythruddo" gan adolygiad annibynnol o'r corff, sy'n llawn "camgymeriadau".

Roedd yr adolygiad a gyhoeddwyd fis diwethaf wedi argymell lleihau cyfrifoldebau Llenyddiaeth Cymru, ac mae'r ddogfen yn feirniadol iawn am reolaeth a llywodraethu'r corff.

Dywedodd yr Athro Damian Walford Davies wrth 91热爆 Cymru fod casgliadau'r adolygiad wedi syfrdanu staff Llenyddiaeth Cymru.

Cafodd yr adolygiad ei gadeirio gan yr Athro Medwin Hughes, sydd wedi dweud nad yw am ymateb i sylwadau'r Athro Davies.

'Ymchwil is-safonol'

"Pan gyhoeddwyd yr adroddiad roeddem wedi'n siomi, wedi'n brawychu, ac wedi ein cythruddo, a hynny oherwydd ei gamgymeriadau, a'i ymchwil is-safonol o'r maes," meddai'r Athro Davies.

Mae casgliadau'r arolwg hefyd wedi eu beirniadu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, sy'n ariannu Llenyddiaeth Cymru.

Disgrifiad o'r fideo, Dywedodd yr Athro Damian Walford Davies bod yr adolygiad yn "hollol anghywir"

Dywedodd yr Athro Hughes mewn datganiad: "Mae'r panel a benodwyd bellach wedi cyflwyno adroddiad i ysgrifennydd y cabinet i'w ystyried.

"Dros gyfnod yr haf rhagwelir y bydd prif randdeiliaid yn ymgysylltu 芒 Llywodraeth Cymru yngl欧n 芒'r argymhellion wrth iddi ystyried ei hymateb ffurfiol i'r adroddiad.

"Er mwyn cynnal ei annibyniaeth a dilyn llywodraethiant da, teimla aelodau'r panel ei bod hi'n gynamserol cynnig sylwadau pellach ar yr adroddiad nes bod y broses wedi dod i ben yn llwyr."

'Dinistrio'r adolygiad'

Pan gafodd casgliad yr arolwg ei gyhoeddi gan Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, dywedodd ei fod "o blaid derbyn" ei argymhellion, ond dywedodd yr Athro Davies fod Mr Skates erbyn hyn wedi gwahodd Llenyddiaeth Cymru i ymateb i gasgliadau'r adolygiad.

"Fe aethon ni i gyfarfod 芒'r ysgrifennydd cabinet i ddweud bod angen i ni gael yr hawl i ymateb," meddai'r Athro Davies.

"Roedd angen nid yn unig y cyfle i gyflwyno ein hachos, ond i gywiro'r camgynrychiolaeth, yr absenoldebau a'r gwallau yn yr adroddiad.

"Felly mae'r ysgrifennydd cabinet wedi ein gwahodd i gyflwyno dogfen o'm pryderon, a'r cywiriadau.

"Rydym wedi gwneud hynny. Mae'r ddogfen honno yn rhedeg i rywbeth fel 5,000 o eiriau. Mae hynny wedi cael ei gyflwyno.

"Mae'r ddogfen yn cynnwys nid yn unig y cywiriadau hynny, nid yn unig y gwrthddadleuon, ond prawf dogfennol a dadansoddiad. Mae'n ddarn o waith da sy'n dinistrio'r adolygiad."

Comisiynwyd yr adolygiad ym mis Medi 2015 a dechreuodd ei waith ym mis Mawrth y llynedd.

Yn wreiddiol roedd yr arolwg i fod i gyflwyno casgliadau erbyn mis Medi 2016, ond roedd trwch y dystiolaeth yn golygu bod rhaid gohirio'r cyhoeddiad.

'Diffygion arwyddocaol'

Ymhlith ei gasgliadau, dywedodd yr adolygiad bod bwrdd Llenyddiaeth Cymru yn brin o brofiad a sgiliau llywodraethu, a dywedodd bod y rhai a gyflawnodd arolwg ar-lein wedi "cyfeirio at deimlad o hawl a hunan-barch" yn y sefydliad.

Ychwanegodd bod canolfan ysgrifennu T欧 Newydd yn "tanberfformio" ac yn "ymddangos ei fod wedi ei anelu'n bennaf at 'hobbyists sydd wedi ymddeol'," ac roedd yr adolygiad wedi dod o hyd i "ddiffygion arwyddocaol" yn y drefn o redeg cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn.

Dywedodd y panel ei fod yn "aneglur" os mai prif swyddogaeth Llenyddiaeth Cymru yw cefnogi awduron yn ariannol neu cynnal digwyddiadau, a bod "dull corfforaethol" wedi arwain at "ymddieithrio ag awduron, a does dim sgwrs ystyrlon yn bodoli i ddatblygu awduron".

Yn ei asesiad o gyfraniad Llenyddiaeth Cymru i faes digwyddiadau llenyddol, dywedodd ei fod wedi "symud ei ffocws o gefnogi hyrwyddwyr allanol i fod yn hyrwyddwr llenyddol ei hun", a bod ei "ymgnawdoliad newydd fel hyrwyddwr gwyliau yn ymddangos i fod yn aneffeithiol, yn ddrud ac yn cael effaith negyddol ar y farchnad".

Dywedodd y dylai gwaith Cyngor Llyfrau Cymru gael ei ehangu o fod yn weinyddwr a dosbarthwr llyfrau a grantiau, i dderbyn nifer o gyfrifoldebau Llenyddiaeth Cymru.

Disgrifiad o'r llun, Mae Ken Skates wedi gwahodd Llenyddiaeth Cymru i ymateb i gasgliadau'r adolygiad

Argymhellion

Mae'r adolygiad yn argymell bod Lywodraeth Cymru yn:

  • Tynnu cyfrifoldebau oddi wrth Lenyddiaeth Cymru am weinyddu cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn, ysgoloriaethau i awduron, digwyddiadau llenyddol a'i gwaith gyda phlant a phobl ifanc;
  • Trosglwyddo'r cyfrifoldebau hynny i Gyngor Llyfrau Cymru, gyda mwy o gyllideb i'r corff;
  • Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i gadw'r cyfrifoldeb am ddigwyddiadau a gwyliau diwylliannol bach;
  • Canolfan Ysgrifennu T欧 Newydd yn Llanystumdwy i aros dan gyfrifoldeb Llenyddiaeth Cymru;
  • Gwella llywodraethu ac atebolrwydd Llenyddiaeth Cymru;
  • Rhoi cymorth cyfieithu llenyddiaeth Cymraeg i'r Saesneg.

Doedd Mr Skates ddim am gael ei gyfweld ar y pwnc.

Pan dderbyniodd yr adroddiad ym mis Mehefin, dywedodd bod y llywodraeth "yn gweithio gyda'r sefydliadau perthnasol i weithredu arnynt".

'Cwbl annerbyniol'

Dywedodd yr Athro Davies bod y dystiolaeth a gyflwynwyd yn ddiweddar i Mr Skates yn rhoi "cyd-destun" fyddai'n cywiro "diffyg tystiolaeth" am gasgliadau'r adolygiad.

"Yn fy marn danbaid i, bydd y cyd-destun ehangach yn dangos i'r argymhellion yn yr adroddiad yma gael eu llunio heb dystiolaeth a heb feddwl drwodd," meddai'r Athro Davies.

"Dwy flynedd, a beth sydd gennym, y dud yma? Mae'n gwbl annerbyniol i bobl Cymru. Mae'r adroddiad yma wedi costio arian.

"Pam yn y byd bod rhaid derbyn y safon yma - yr ansawdd o feddwl yma? Dydy'r adroddiad yma ddim hyd yn oed wedi'i brawf ddarllen, a dyna'r lleiaf o'i broblemau."

Disgrifiad o'r llun, Mae cadeirydd yr adolygiad, yr Athro Medwin Hughes, wedi dweud nad yw am ymateb i sylwadau'r Athro Davies

Mewn datganiad yn beirniadu'r adolygiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru ei bod yn "siomedig iawn gan ansawdd yr adroddiad".

"Comisiynodd Llywodraeth Cymru ddadansoddiad manwl a thrylwyr o'r sector," meddai.

"Yn hytrach, yr hyn sydd gennym yw adroddiad sy'n darparu dadansoddiad rhannol ac sy'n anghyson yn ei feirniadaeth.

"Mae hyn yn tanseilio awdurdod casgliadau'r panel adolygu."

Disgrifiad o'r fideo, Mae cadeirydd y Cyngor Llyfrau, yr Athro M Wynn Thomas, yn croesawu'r adroddiad

Roedd yr adroddiad yn canmol gwaith Cyngor Llyfrau Cymru, gan awgrymu y dylai'r corff gymryd rheolaeth o nifer o gyfrifoldebau Llenyddiaeth Cymru.

Dywedodd cadeirydd y Cyngor Llyfrau, yr Athro M Wynn Thomas y gallai'r adroddiad "atgyfnerthu'r gwasanaeth ry'n ni'n ei gynnig i'r diwydiant cyhoeddi yma yng Nghymru".

"Mae gennym ni'r gallu'n rhwydd i ddelio 芒'r argymhellion," meddai.

"Mae'r cyfan yn gyffrous i ni oherwydd mae'n golygu cam mawr arall i sicrhau bod y cyngor yn gorff cenedlaethol o wir aeddfedrwydd a gwir bwys.

"Ry'n ni'n edrych 'mlaen at gydweithio 芒 Ll锚n Cymru a Chyngor y Celfyddydau er mwyn sicrhau bod yr argymhellion yn cael eu gweithredu cyn gynted 芒 phosib.

"Hyd y gwela' i, mae 'na ddigon o gyfrifoldebau ar 么l gyda Llenyddiaeth Cymru i'w cynnal nhw ac i'w galluogi nhw i wneud cyfraniad gwerthfawr."