Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Sefydlu academi gwerth 拢3.4m i hyfforddi radiolegwyr
Fe fydd academi newydd gwerth 拢3.4m yn cael ei chreu i hyfforddi radiolegwyr a staff ym maes delweddu yng Nghymru.
Bydd yr Academi Ddelweddu Genedlaethol yn cael ei lleoli ym Mhen-coed, Pen-y-bont ar Ogwr.
I ddechrau, bydd y sefydliad yn canolbwyntio ar hyfforddi radiolegwyr, ond bydd yn ymestyn i gynnwys sonograffwyr a staff eraill ym maes delweddu yn y dyfodol.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, y bydd yr academi yn help i "ganiat谩u inni gynyddu nifer y radiolegwyr hyfforddedig yn GIG Cymru i sicrhau gweithlu cynaliadwy".
Yn yr academi, bydd radiolegwyr ymgynghorol ar draws y de yn darparu seminarau a goruchwyliaeth i bobl sy'n cael eu hyfforddi ar astudiaethau delweddu, gan gynnwys dehongli pelydr-X, sganiau CT ac MRI.
Ychwanegodd Mr Gething: "Mae radiolegwyr a'r rhai yn y gweithlu delweddu yn chwarae r么l o bwys wrth gefnogi staff meddygol a chlinigol gydag ymchwiliadau delweddu ac adroddiadau amserol, sy'n caniat谩u i feddygon ddarparu'r gofal gorau posibl i gleifion."
'Ansawdd uchel'
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Dr Phillip Wardle, y radiolegydd ymgynghorol sy'n arwain yr academi newydd, y bydd y corff "yn helpu i fynd i'r afael 芒'r heriau sy'n wynebu delweddu a radioleg glinigol".
"Bydd yn hwyluso cynnydd sylweddol yn y capasiti ar gyfer hyfforddiant radioleg, gan ddynwared modelau academi eraill mewn rhannau eraill o'r DU", meddai.
Y bwriad yw y bydd yr academi yn dal i ddatblygu, gan ddod yn ganolfan arloesi ac ymchwil, ac y bydd ganddi ran yn hyfforddiant gweithlu delweddu ehangach y Gwasanaeth Iechyd.
Mae disgwyl i'r academi ddechrau gweithio erbyn canol 2018.