Gweithgareddau Tafwyl 2017 wedi dechrau yng Nghaerdydd

Ffynhonnell y llun, TAFWYL

Disgrifiad o'r llun, Bydd yr 诺yl yn symud i leoliad newydd dros dro o Gastell Caerdydd i gaeau Llandaf

Mae g诺yl gymunedol fwyaf Cymru, Tafwyl, wedi dechrau yng Nghaerdydd gyda nifer o weithgareddau wedi'i threfnu dros wyth niwrnod.

Mae'r digwyddiadau amrywiol yn cynnwys gwledd o gerddoriaeth, llenyddiaeth, teithiau tywys, bwyd a diod, digwyddiadau i ddysgwyr ac i blant ar draws Caerdydd.

Bydd nifer o leoliadau yn cael ei defnyddio ar hyd y brifddinas gan gynnwys San Ffagan, Canolfan y Chapter a Chlwb Ifor bach.

I goroni'r 诺yl bydd cyngerdd yn digwydd ar 1 - 2 Gorffennaf ar gaeau Llandaf ble mae disgwyl mwy na 36,000 o bobl fynychu i wrando ar ai o artistiaid mwyaf poblogaidd y sin roc Gymraeg.

'Diwylliant ar ei orau'

Dywedodd trefnydd yr 诺yl Llinos Williams o Menter Caerdydd: "Rydym yn edrych ymlaen at groesawu wynebau cyfarwydd a chwrdd ag wynebau newydd wrth i ni symud Tafwyl i Gaeau Llandaf am flwyddyn.

"Mae'r line up eleni i fyny gyda'r gorau erioed, ac yn dangos ein diwylliant ar ei orau."

Bydd Meic Stevens, Candelas a HMS Morris hefyd ymhlith y bandiau fydd yn perfformio ar draws tri llwyfan yn ystod y digwyddiad eleni.

Disgrifiad o'r llun, Bydd Alys Williams ymhlith yr artistiaid fu'n perfformio eleni

Lleoliad newydd

Mae'r 诺yl wedi symud o Gastell Caerdydd i leoliad newydd dros dro ar gaeau Llandaf yn y brifddinas.

Mae rhai o'r pebyll oedd fyny yng Nghastell Caerdydd ar gyfer rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr ddechrau fis Mehefin yn parhau i gael ei tynnu i lawr, sy'n golygu na fydd y Castell yn barod i lwyfannu Tafwyl.

Dywedodd un o lysgenhadon Tafwyl, y DJ Huw Stephens: "Mae Tafwyl yn dod 芒 chymaint o artistiaid cerddorol anhygoel at ei gilydd i Gaerdydd bob blwyddyn.

"Mae'r rhestr eleni yn dangos pa mor eclectig a diddorol ma' pethe ar hyn o bryd.

"A bydd llwyfan Yurt T yn dod a bandiau newydd i gynulleidfa newydd".

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Huw Stephens bod y rhestr artistiaid eleni 'yn dangos pa mor eclectig a diddorol ma' pethe ar hyn o bryd'.