Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyngor i ymgynghori ynglŷn â chau cartref Bodlondeb
Mae Cabinet Cyngor Ceredigion wedi penderfynu dechrau'r broses o ymgynghori ynglŷn â chau cartref preswyl Bodlondeb yn Aberystwyth.
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal dros gyfnod o 12 wythnos rhwng 3 Gorffennaf a 25 Medi.
Mae gan Bodlondeb 13 o drigolion - 11 yn barhaol a dau dros dro.
Ni fydd neb yn cael eu derbyn yn barhaol i Bodlondeb o ddechrau'r ymgynghoriad hyd y bydd y Cabinet yn gwneud penderfyniad terfynol.
Bu Cyngor Ceredigon yn ceisio gwerthu cartref Bodlondeb, sy'n cyflogi 33 o staff, ers dwy flynedd.
Mae'r safle yn costio £400,000 y flwyddyn i'w gynnal, ac mae angen gwaith adnewyddu ar yr adeilad yn ôl adroddiad gan swyddogion y sir.
Dywedodd yr Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Wasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Catherine Hughes: "Mae angen sicrhau ein bod ni'n dilyn deddfwriaeth sydd allan o'n dwylo ni, ond yn bennaf oll, yn rhoi'r ddarpariaeth orau i'n bobl hÅ·n ni."
"Cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud ar gau Bodlondeb, mae'n holl bwysig bod preswylwyr, teuluoedd a staff yn cael y cyfle i ddweud eu dweud. Mae'r cyfnod 12 wythnos yma'n rhoi'r cyfle yna iddynt."
Dim ond 26 o'r 44 o welyau yn y cartref sydd wedi eu cofrestru, gan nad yw'r gweddill yn cyd-fynd â'r safonau angenrheidiol.
Mae Undeb y GMB wedi gwrthwynebu'r bwriad i gau gan ddweud y bydd yn creu "gwagle mawr" yn y gofal sy'n cael ei gynnig yn y canolbarth.
Fel rhan o'r broses ymgynghori mae cyfarfod cyhoeddus wedi ei drefnu yn Ysgol Gynradd Llwyn-yr-Eos, Penparcau ar 17 Gorffennaf.