Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Brexit: Barn y pleidiau wrth i'r trafodaethau ddechrau
Wrth i'r trafodaethau Brexit ddechrau o ddifrif, mae canlyniad yr Etholiad Cyffredinol yn awgrymu bydd yn rhaid i Theresa May ystyried safbwyntiau'r pleidiau eraill - yn ogystal 芒'i phlaid ei hun - er mwyn osgoi gwrthdaro difrifol yn San Steffan.
Mae yna gytuno cynyddol ymhlith y pleidiau mawr fod angen derbyn canlyniad y refferendwm flwyddyn yn 么l.
Ond bydd yr anghytuno ffyrnig yn parhau ar ddyfodol masnach a mewnfudo yn enwedig.
Beth yw blaenoriaethau pleidiau felly?
Yn ffodus mae'r pleidiau newydd ddweud wrthon ni - trwy gyfrwng eu maniffestos ar gyfer Etholiad 2017.
Er mwyn atal unrhyw anghyfleustra diangen i'n darllenwyr, fe wnaeth Cymru Fyw grynhoi'r cyfan ar eich cyfer.
Y Ceidwadwyr
Mae'r cyfeiriad yn glir. "Brexit yw Brexit" meddai Mrs May.
Ond gan fod llywodraeth Theresa May yn dechrau cyfnod cymhleth o drafod, mae manylion gwir ystyr hynny efallai ychydig yn brin.
Mae'r blaenoriaethau yn cael eu disgrifio gan y Ceidwadwyr Cymreig fel hyn:
- Gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn ffordd esmwyth a threfnus sy'n gweithio i Gymru a phob rhan o'r DU;
- Meithrin partneriaeth ddofn ac arbennig 芒'n cyfeillion a'n cymheiriaid ledled Ewrop;
- Rhaid i Brydain aros yn gryf ac yn unedig - a chwarae r么l arweiniol yn y byd er mwyn diogelu ein buddiannau.
Llafur Cymru
Mae Llafur yn dweud eu bod wedi derbyn canlyniad y refferendwm. Ond maen nhw eisiau cadw rhai agweddau sylfaenol o'r berthynas rhwng Prydain a'r UE.
Dyma eu prif flaenoriaethau:
- Sicrhau mynediad llawn a dilyffethair i'r Farchnad Sengl i gefnogi busnesau, a sicrhau swyddi a ffyniant Cymru i'r dyfodol;
- Ymateb i bryderon am agweddau ar fudo trwy gysylltu mudo yn y dyfodol a chyflogaeth;
- Ar gyllid a buddsoddi, yr angen i lywodraeth y DU gyflawni'r addewidion a wnaed yn ystod ymgyrch y refferendwm na fyddai Cymru yn colli ceiniog o gyllid.
Plaid Cymru
Dywedodd plaid Leanne Wood y dylid:
- Sicrhau bod modd masnachu ag Ewrop heb unrhyw rwystrau costus;
- Mynnu bod Cymru yn derbyn pob ceiniog o'r hyn addawyd i Gymru yn ystod yr ymgyrch i adael yr UE;
- Cael ymrwymiad i ymgynghori 芒'r Cynulliad Cenedlaethol cyn cytuno ar drefniadau masnachu newydd;
- Gwarantu hawliau dinasyddion Ewrop sydd yn byw yng Nghymru.
Democratiaid Rhyddfrydol
Er nad oes gan y blaid hon Aelod Seneddol yng Nghymru - nag arweinydd ar hyn o bryd - maen nhw wedi cynyddu eu cynrychiolaeth yn San Steffan.
Maen nhw mewn lleiafrif wrth iddyn nhw barhau i wrthwynebu Brexit.
Yn y cyfamser maen nhw'n gofyn am y canlynol:
- Parhau ag aelodaeth o'r farchnad sengl;
- Cadw'r egwyddor o ryddid pobl i symud a gweithio;
- Gwrthwynebu unrhyw newidiadau i wneud Cymru yn llai llewyrchus;
- Sicrhau fod grymoedd priodol yn cael eu datganoli wedi Brexit.
UKIP
Mae dylanwad UKIP wedi edwino ers canlyniadau trychinebus yn yr etholiad cyffredinol. Dyma eu blaenoriaethau:
- Torri'r cysylltiad ffurfiol rhwng Prydain a'r Undeb Ewropeaidd mor fuan 芒 phosib;
- Gwrthwynebu rhyddid dinasyddion i symud a gweithio heb reolau llymach;
- Dweud nad oes angen cytundeb gyda'r UE i fasnachu, gan ein bod yn mewnforio mwy o nwyddau o Ewrop nag sydd yn cael ei allforio.