Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y Frech Goch: Ap锚l i rieni Caerdydd
Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn annog rhieni yr ardal i sicrhau bod eu plant wedi derbyn dau frechiad MMR.
Daw'r ap锚l ar 么l i bedwar achos newydd o'r frech goch ddod i'r amlwg mewn ysgol yng Nghasnewydd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wrthi'n ymchwilio i'r achosion.
Yn 么l Dr Tom Porter, sy'n ymgynghorydd iechyd cyhoeddus, nid yw un brechlyn MMR yn ddigon i warchod plentyn a pherson ifanc rhag dal y frech goch, clwy'r pennau a'r frech Almaenig.
"Ar hyn o bryd mae un o bob saith plentyn yn ardal Caerdydd a Bro Morgannwg wedi methu a chael y dos cywir o'r brechlyn. Mae'r nifer yna llawer yn llai na'r hyn sydd ei angen i rwystro rhagor o achosion," meddai.
"Fe fydden ni'n annog rhieni i sicrhau bod eu plant wedi derbyn y ddau bigiad, ac os nad ydyn nhw wedi, iddyn nhw gysylltu gyda'u meddyg teulu am apwyntiad."