Defnyddio'r byd digidol i hyrwyddo'r iaith

Ceisio cael mwy o bobl ifanc i ymwneud 芒'r byd digidol yn y Gymraeg yw nod ardal 'Creadigidol' ym mhabell y Gwyddonle ar faes yr Urdd eleni.

Bydd cyfle i blant ddysgu gosod cod ar gyfrifiaduron bychan Rasperry Pi a chreu deunydd digidol ar gyfer YouTube o flaen sgrin werdd.

Dywedodd rheolwr yr ardal Creadigidol, Huw Marshall mai'r gobaith yn ystod wythnos yr Eisteddfod yw hyrwyddo "sut mae cael pobl ifanc i ymwneud yn y byd digidol trwy gyfrwng y Gymraeg".

"'Da ni'n ymwybodol iawn bod pobl ifanc y dyddiau yma yn treulio mwy o'u hamser ar-lein yn y byd digidol, ond mae o'n fyd Saesneg ei iaith," meddai.

"Yr hyn dy'n ni wedi bod yn ei wneud ydy amlygu i bobl ifanc yng Nghymru sut maen nhw'n medru creu cynnwys eu hunain a sut i ymwneud 芒'r byd digidol trwy gyfrwng y Gymraeg."

Mae'r Rasperry Pi - cyfrifiadur bychan sy'n cael ei ddefnyddio i ddysgu sgiliau technoleg gwybodaeth mewn ysgolion - yn cael eu cynhyrchu lai na milltir o'r maes yn ffatri Sony. Ymysg y gweithgareddau eraill yn y babell mae rasio car rasio gafodd ei ddylunio gyda thechnoleg CAD a dylunio gyda'r argraffydd 3D diweddaraf.

"Mae plant wir yn cael eu hysbrydoli gan yr hyn y maen nhw'n ei weld yn y Gwyddonle," meddai Gwenno Ffrancon o Brifysgol Abertawe, sy'n noddi'r babell.

"Mae ymysg y pabelli prysuraf ar y maes, ac mae'n tyfu pob blwyddyn."