Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Triniaeth proton i gleifion canser yng Nghymru
Mae darn allweddol o beiriant pelydr proton, a'r cyntaf o'i fath ym Mhrydain, wedi ei ddanfon i Gasnewydd ddydd Sadwrn.
Yn 么l y cwmni Proton Partners International (PPI) fe allai'r dechnoleg wedd newid triniaethau canser i 500 o gleifion bob blwyddyn sydd gyda thiwmor mewn llefydd anodd eu cyrraedd.
Math o radiotherapi yw'r driniaeth ond gyda llai o risg o niweidio meinwe o amgylch y canser ac achosi sgil effeithiau.
Ar hyn o bryd mae'r driniaeth ond ar gael yn y DU yng Nghilgwri ar gyfer canser llygaid prin.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bydd therapi pelydr proton ar gael ar gyfer cleifion gyda mathau arbennig o ganser "o fewn y flwyddyn nesaf."
Achos Ashya King
Mae'r therapi yn adnabyddus wedi achos Ashya King, bachgen pump oed oedd gyda thiwmor ar yr ymennydd.
Fe aeth ei rhieni ag ef i Weriniaeth Tsiec er mwyn cael y driniaeth.
Mae tua 140 o gleifion y flwyddyn yn mynd dramor i gael pelydr proton, fel arfer i'r Unol Daleithiau a'r Swistir.
Mae'r claf yn gorfod treulio hyd at chwe wythnos dramor ac mae'r driniaeth yn costio tua 拢114,000 ymhob achos.
Fe allai'r clinig yng Nghasnewydd haneru'r gost, meddai arbenigwyr, a hefyd olygu bod cleifion yn gallu aros yn agos i'w teuluoedd wrth dderbyn y driniaeth.
Dywedodd Prif Weithredwr PPI, Mike Moran: "Mae'n arwyddocaol bod therapi pelydr proton yn mynd i fod ar gael i bobl Cymru.
"Ein gweledigaeth yw creu dyfodol gwell i gleifion canser ac fe fydd therapi pelydr proton yn rhan hanfodol o wneud y weledigaeth honno yn realiti."
'Dim angen teithio'
Cafodd Canolfan Ganser Rutherford yng Nghasnewydd ei hagor ym mis Chwefror ac mae wedi derbyn 拢10m o arian gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd llefarydd y llywodraeth: "Ar hyn o bryd mae cleifion sydd angen y math yma o radiotherapi yn cael eu hafon dramor i gael triniaeth.
"O fewn y flwyddyn nesaf dylai triniaeth o'r math yma fod ar gael i gleifion GIG Cymru yn lleol, ar gyfer rhai mathau o ganser, a fydd dim angen iddyn nhw deithio tramor."