Yr Egin: 'Buddsoddiad pwysig' medd Gweinidog y Gymraeg

Ffynhonnell y llun, Prifysgol y Drindod Dewi Sant

Disgrifiad o'r llun, Argraff artist o ganolfan Yr Egin

Mae Gweinidog y Gymraeg wedi dweud wrth un o bwyllgorau'r Cynulliad y bydd canolfan greadigol Yr Egin yng Nghaerfyrddin yn creu swyddi o ansawdd uchel.

Bydd Yr Egin yn cynnwys pencadlys newydd S4C, ac fe ddywedodd Alun Davies fod buddsoddiad Llywodraeth Cymru o 拢3m yn y ganolfan yn "fuddsoddiad pwysig".

Roedd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi dweud na fyddai angen unrhyw arian cyhoeddus ar gyfer adeiladu'r ganolfan.

Dywedodd Mr Davies nad oedd yn gwybod os byddai Yr Egin yn creu'r 600 o swyddi oedd wedi eu gaddo, ond roedd yn "hyderus" y byddai'n cynnig cyfleoedd newydd.

Ychwanegodd wrth Bwyllgor Diwylliant y Cynulliad ddydd Mercher ei fod yn gweld y ganolfan fel buddsoddiad pwysig fyddai'n cefnogi economi de orllewin Cymru a'r iaith Gymraeg.

Disgrifiad o'r llun, Roedd Alun Davies yn siarad o flaen Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad ddydd Mercher

Roedd yna "r么l bwysig" i Lywodraeth Cymru i fuddsoddi lle'r oedd methiant yn y farchnad, meddai, wrth helpu i greu swyddi o ansawdd uchel drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ardaloedd fel Sir Gaerfyrddin.

Ym mis Mawrth, dywedodd pennaethiaid y brifysgol nad oedd yr adeilad wedi denu unrhyw denantiaid eto heblaw am S4C.

Ychwanegodd y gallai S4C wneud mwy i gefnogi datblygu sgiliau mewn partneriaeth a darlledwyr eraill, cyrff masnach, undebau a chroff newydd Cymru Greadigol sy'n cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Mr Davies hefyd ei fod yn croesawu adolygiad Llywodraeth y DU o waith S4C, ond ei fod yn "siomedig" nad oedd y gwaith hwnnw wedi dechrau eto.

Esboniodd fod Llywodraeth Cymru'n dal i aros i Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) Llywodraeth y DU i gadarnhau manylion terfynol maes gorchwyl yr adolygiad, a phwy fydd yn arwain y gwaith hwnnw o adolygu S4C.