Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Grant o 拢5m i gefnogi cynllun archif ddarlledu
Mae prosiect gwerth 拢9m i greu archif ddarlledu genedlaethol wedi cael nawdd loteri gwerth 拢5m.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru a 91热爆 Cymru yn mynd i ddatblygu cynlluniau i alluogi'r cyhoedd i gael mynediad i archif y darlledwr.
Bydd hyn ar gael mewn pedwar o ganolfannau digidol yn Aberystwyth, Wrecsam, Caerfyrddin a Chaerdydd.
Dywedodd Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol, Rhodri Glyn Thomas, y byddai'n "gwarchod ffynhonnell hanfodol o dreftadaeth ein gwlad".
Mae'r archif o tua 160,000 o recordiadau, sy'n dyddio'n 么l i'r 1930au, ac yn cynnwys darllediadau o'r yr Ail Ryfel Byd, trychineb Aberfan, a streic y glowyr.
Bydd tua 1,000 o glipiau o raglen hefyd yn cael eu gwneud ar gael i bobl wylio ar-lein.
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi rhoi arian fel y gall y llyfrgell a'r 91热爆 Cymru gynhyrchu cynllun busnes manwl erbyn mis Mawrth i gael eu hystyried am y grant o 拢4.9m.
Fe ddaw'r cyhoeddiad wrth i 91热爆 Cymru baratoi i symud i adeilad newydd yng nghanol dinas Caerdydd yn 2019.
Mae Llyfrgell Genedlaethol hefyd yn gweithio gyda'r gorfforaeth i storio recordiadau gwreiddiol yn eu hadeilad yn Aberystwyth.
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr 91热爆 Cymru, y byddai'r "bartneriaeth di-gynsail yma" yn golygu fod "yr adnoddau anhygoel hyn ar gael i'r cyhoedd yng Nghymru gyfan".