Penodi y Deon June Osborne yn Esgob Llandaf

Ffynhonnell y llun, Ian Berry

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi cyhoeddi enw esgob newydd plwyf Llandaf, wedi cyfnod o ansicrwydd ar 么l i'r Coleg Etholiadol fethu a dewis olynydd i'r Parchedicaf Ddr Barry Morgan ym mis Chwefror eleni.

Mae June Osborne, sydd wedi bod yn gwasanaethu fel Deon Caersallog (Salisbury) am y 13 mlynedd diwethaf, wedi cael ei dewis fel y 72eg Esgob Llandaf.

Mae'r esgobaeth yn gwasanaethu y rhan fwyaf o ardaloedd Caerdydd, Cymoedd De Cymru a Bro Morgannwg.

Bydd penodiad y Deon Osborne yn cael ei gadarnhau ar 14 Gorffennaf mewn cyfarfod o Synod Sanctaidd yr Eglwys yng Nghymru yng Nghadeirlan Aberhonddu, lle bydd Dean Osborne yn cael ei ordeinio yn esgob ar y diwrnod canlynol (15 Gorffennaf).

'Esgobaeth wedi ei bendithio'

Wrth groesawu ei phenodiad, dywedodd Uwch Esgob yr Eglwys, Yr Esgob John Davies, "Mae Esgobaeth Llandaf wedi ei bendithio gyda phenodiad Deon Osborne.

"Mae hanes June yn dangos ei bod yn angerddol am y weinidogaeth Gristnogol, a bod ei efengyl wedi eu modelu ar y gorchmynion o gariad, cyfiawnder, cynhwysiant a bod yn agored - nodweddion yr wyf a fy nghyd esgobion cefnogi ac yn croesawu."

Yn raddedig mewn Gwyddorau Cymdeithasol o Brifysgol Manceinion, Fe hyfforddodd y Deon Osborne ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Sant Ioan, Nottingham a Neuadd Wycliffe, Rhydychen.

Cafodd ei gwneud yn Ddiacones am y tro cyntaf yn 1980, wedi cyfnodau yn gwasanaethu mewn amryw o eglwysi, fe'i phenodwyd yn Ddeon Caersallog yn 2004.

Mae'r Deon Osborne yn briod 芒'r bargyfreithiwr Paul Goulding QC, ac mae ganddynt ddau o blant.

Mae ei diddordebau yn cynnwys y celfyddydau a ph锚l-droed ac mae'n gefnogwraig brwd o glwb Manchester City.

'Cyfnod cythryblus'

Dywedodd y Deon Osborne ei bod yn "fraint fawr iawn i gael ei henwebu fel Esgob Llandaf.

"Dyma swydd hynafol gyda nifer o ragflaenwyr bonheddig iawn. Bydd fel dod adref i'r teulu, yn enwedig gan fod fy ng诺r yn dod o Gaerdydd.

"Fe fydd arwain esgobaeth sydd mor amrywiol, mewn ardal sydd mor hanesyddol a hardd, yn heriol, ond mae gen i awydd enfawr ar gyfer y dasg, ac mae'n anrhydedd fawr i gael y cyfle i ymuno 芒 th卯m esgobaethol sy'n gryf ac yn llawn dychymyg.

"Mae hwn yn gyfnod cythryblus yn hanes y byd ac mae'r angen am ffydd, ac arweinyddiaeth hyderus, nodedig gan yr Eglwys mor bwysig ag erioed."

Fe fydd cyfnod Deon Osborne yn dod i ben yng Nghadeirlan Caersallog ar 9 Mehefin.