Lle oeddwn i: Opera roc Jiwdas Iscariot 1979

Roedden nhw'n griw talentog a brwdfrydig o bob cwr o Gymru ac yn 1979 daeth Theatr Ieuenctid yr Urdd at ei gilydd i lwyfannu opera roc eiconig Jiwdas Iscariot. Bydd rhaglen Cofio ar Radio Cymru yn hel atgofion am y cynhyrchiad ar Sul y Pasg.

Huw Williams o'r Bala oedd yn chwarae' rhan Jiwdas:

"Ro'n i wedi bod yn perfformio mewn operau roc ers sawl blwyddyn, sy'n rhyfedd oherwydd ymuno gyda'r cwmn茂au fel technegydd oeddwn ni wedi ei 'neud yn wreiddiol, ac yn cymryd rhannau bach i lenwi bylchau.

"Ro'n i wedi bod yn rhan o gorws y sioe Nia Ben Aur yn 1974, gan fy mod i erbyn hynny yn aelod o Ac Eraill,y band sgwennodd y gerddoriaeth ar gyfer y sioe.

"Dwi'n meddwl bod y syniad am Jiwdas wedi deillio o syniad yn ystod ymarferion sioe Agi Agi yn Ysgol y Berwyn y flwyddyn cynt. Aeth Emyr Edwards, cyfarwyddwr cwmni'r Urdd a Delwyn Si么n ati wedyn i greu Jiwdas.

"Erbyn hynny ro'n i wedi perfformio yn opera roc Dic Penderyn yn Eisteddfod Caerdydd 1978, ac am ryw reswm mi 'naethon nhw nhw ofyn i fi chwarae'r brif ran.

Disgrifiad o'r llun, Stifyn Parri (Annas) ac Elfed Dafis (Caiaffas) yn plygu clust Huw Williams oedd yn chwarae rhan Jiwdas

"Aeth nifer o gast Jiwdas ymlaen i wneud bywoliaeth ar y teledu a'r theatr gan gynnwys Stifyn Parri, Si芒n James, Simon Fisher ac Elfed Dafis, felly roedd yn sioe heb ei ail."

Tra bod nifer o'i gyd-actorion wedi mynd yn eu blaenau i fod yn enwau cyfarwydd ym myd drama ac adloniant Cymru, penderfynodd Huw gilio o flaen y llwyfan wedi perfformiad ola Jiwdas Iscariot

"Ro'n i yn 25 oed, ac felly yn rhy hen beth bynnag ar 么l hyn i fod yn rhan o gwmn茂au'r Urdd. Ro'n i hefyd wedi dechrau gweithio fel ymchwilydd ar raglen Bilidowcar yn y 91热爆, ac wedi penderfynu mai tu 么l i'r camera ro'n i isio bod yn hytrach na blaen y llwyfan."

Ond er i bawb fwynhau'r perfformiadau ar y cyfan, roedd elfennau cymysg yn yr adolygiad o Jiwdas Iscariot gafodd ei gyhoeddi yng nghylchgrawn wythnosol Y Faner ar 11 Mai 1979.

Cyw cantores ac actores ifanc o'r enw Caryl Parry Jones oedd yr awdur beirniadol. ac er bod hi'n amlwg wedi mwynhau'r sioe ar y cyfan, roedd cyfeiriad llai na charedig am berfformiad Robin Williams oedd yn chwarae rhan Iesu Grist yn y cynhyrchiad.

"Robin Williams, brawd Huw...oedd Iesu Grist. Ond siomedig oedd y portread hwn...doedd o ddim yn taro deuddeg...yn gymeriadol nag yn lleisiol." Awch!

Fe wnaeth Cymru Fyw atgoffa Caryl o'i geiriau miniog:

"Iasu... dwi ddim hyd yn oed cofio adolygu'r sioe, er dwi yn cofio ei gweld hi. Fues i'n siarad gyda'r trefnydd cerdd, Dulais Rees ar y noson, a dwi'n cofio gofyn iddo pa interval cerddorol oedd orau ganddo. 'Yr un rhwng yr act cyntaf a'r ail' meddai dan chwerthin.

"Ond dwi ddim yn cofio bod mor galed a fues i ar Robin. Mi wel'is i o sbel fach yn 么l yn un o gemau rygbi'r Gleision, a wnaeth o ddim fy nhaflu i i'r llewod, felly mae'n siwr ei fod wedi maddau i mi."

Yn ffodus i Caryl mae Huw yn awgrymu bod Robin ei frawd wedi anghofio popeth am yr adolygiad

"Dwi ddim yn siwr ei fod o 'rioed wedi s么n am y peth, ond mae'r actor Ieuan Rhys yn difaru hyd heddiw nad oedd o wedi cael rhan yn y sioe ac mae'n cyfeirio at hynny yn ei hunangofiant."

Disgrifiad o'r llun, Huw Williams a Simon Fisher