Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Is-hyfforddwr Cymru, Osian Roberts yw Llywydd yr Eisteddfod
Is-hyfforddwr t卯m p锚l-droed Cymru, Osian Roberts fydd Llywydd yr 诺yl yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys M么n ym mis Awst.
Mae'n frodor o F么n, wedi ei fagu ym Modffordd ac mae p锚l-droed wedi bod yn rhan fawr o'i fywyd ers iddo fod yn blentyn.
- Mwy o
Yn ogystal 芒'i d卯m lleol, Llangefni, fe chwaraeodd hefyd i Dinas Bangor a Bethesda ac roedd yn b锚l-droediwr addawol iawn, gan fod yn gapten T卯m Ysgolion Cymru.
Cafodd hefyd ysgoloriaeth i fynd i chwarae p锚l-droed yn yr UDA, y Cymro cyntaf i dderbyn yr ysgoloriaeth, a daeth yn chwaraewr proffesiynol cyn penderfynu troi at reoli yn Albuquerque, Mecsico Newydd.
Daeth yn Swyddog Datblygu P锚l-droed yn 么l ym M么n ac yna aeth i reoli Clwb P锚l-droed Porthmadog cyn iddo ymuno gyda th卯m Cymru.
Yn ystod pencampwriaeth Euro 2016 y llynedd roedd yn rhan ganolog o'r t卯m hyfforddi wrth i Gymru lwyddo i gyrraedd rownd gynderfynol y gystadleuaeth, a hynny wrth i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol cystadleuaeth ryngwladol am y tro cyntaf ers Cwpan y Byd 1958.
Fe gafodd cynadleddau i'r wasg UEFA hefyd eu cynnal yn y Gymraeg yn ystod y gystadleuaeth, a th卯m Cymru yn creu hanes ac yn codi proffil yr iaith ar draws y byd.
Bydd Osian Roberts, sydd hefyd wedi derbyn Cymrodoriaeth Anrhydeddus gan Brifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn annerch cynulleidfa'r Eisteddfod o lwyfan y Pafiliwn yn ystod yr wythnos.