Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Brexit: Beth fydd yn bwysig i Gymru wrth i ni adael?
Dydd Mercher bydd y Prif Weinidog Theresa May yn rhoi gwybod i'r Undeb Ewropeaidd y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr undeb.
Yna bydd y trafodaethau yn dechrau yngl欧n 芒'r telerau gadael, a pherthynas y DU gyda'r gwledydd eraill, proses all gymryd dwy flynedd.
Ond beth fydd yn bwysig i Gymru yn ystod y broses yma? Gohebwyr arbenigol 91热爆 Cymru sy'n darogan.
Amaeth a'r Amgylchedd: Steffan Messenger
Cael y fargen fasnach gywir yw'r peth pwysig i ffermwyr Cymru.
Mae 90% o gynnyrch amaethyddol Cymru yn cael ei allforio i'r UE ac mae arweinwyr y byd amaeth eisiau mynediad rhydd i'r marchnadoedd mawr sydd ar garreg eu drws.
Ond mae trafodaethau yngl欧n 芒 chytundebau newydd gyda Seland Newydd, Unol Daleithiau America ac eraill wedi codi pryderon y bydd cigoedd o dramor yn llenwi silffoedd ein harchfarchnadoedd a safonau uchel cynnyrch yn cael eu tanseilio.
Wedi degawdau o lynu wrth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) mae'r cyfle i ail ysgrifennu'r llyfr rheolau yn cyffroi nifer.
Er hynny mae'r cwestiwn yngl欧n 芒 phwy fydd yn cymryd yr awenau - Llywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru - dal heb ei ateb.
Mae miloedd ar filoedd o reolau a rheoliadau i'w datod yn y maes amgylcheddol gyda'r mwyafrif o gyfreithiau gyda'u gwreiddiau ym Mrwsel.
Bydd craffu manwl gan y rhai sydd yn cefnogi ac yn gwrthwynebu Brexit ar unrhyw gynlluniau i newid deddfau sydd yn amddiffyn yr amgylchedd.
Economi: Brian Meechan a Sarah Dickins
Cymru yw un o'r rhannau o'r DU sydd wedi cael y gyfran fwyaf o arian o'r UE er mwyn tyfu'r economi, cynhyrchu mwy o swyddi a gwella safonau byw.
Mae'r arian wedi ei wario ar ystod eang o gynlluniau yng ngorllewin Cymru a'r cymoedd gan gynnwys gwella ffyrdd a rhaglenni i adfywio cymunedau.
Mae rhaglenni Llywodraeth Cymru i roi sgiliau i bobl i gael mynediad i waith hefyd wedi derbyn rhywfaint o arian gan yr UE.
Dyw gadael ddim yn golygu bydd y rhaglenni yma yn dod i ben ond mae eu nawdd a'u dyfodol yn fwy ansicr.
Mae busnesau sydd yn cyflogi mewnfudwyr o Ewrop eisiau gwybod sut y bydd y sgiliau yma yn cael eu datblygu o fewn gweithlu Prydain.
Cwestiwn arall yw os fydd dinasyddion yr UE sydd yn gweithio yma yn cael aros a pharhau i weithio, ac os fydd eraill yn cael dod i'r DU ar 么l Brexit.
Oherwydd y farchnad sengl mae Cymru wedi bod yn lle deniadol i gwmn茂au dros y d诺r i wneud cynnyrch a'u gwerthu ar draws Ewrop.
Os nad yw'r DU yn rhan o'r farchnad sengl bydd angen cytundebau newydd ar reoliadau a thollau ac fe allai hyn effeithio penderfyniadau busnesau.
Mae rhai cwmn茂au lle mae'r perchnogion wedi eu sefydlu ar draws Ewrop, fel Airbus, sy'n cynhyrchu adenydd awyren yn Sir y Fflint ac yn eu cludo i Toulouse yn Ffrainc.
Mae'r busnes wedi dweud wrth wleidyddion bod pryder na fyddan nhw'n gallu parhau i gludo staff ar awyren ym Mhrydain fel eu bod yn gweithio yn Toulouse y diwrnod wedyn.
Ond mae Llywodraeth y DU wedi dangos arwyddion y byddan nhw'n ceisio cael trefniadau arbennig ar gyfer sectorau allweddol.
Addysg: Colette Hume
Mae myfyrwyr rhyngwladol yn dod ag arian mawr i brifysgolion Cymru, ac mae pryderon yngl欧n ag effaith gadael yr UE ar nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy'n dewis astudio yma.
Yn 么l UCAS mae cwymp o 7% wedi bod yn nifer y ceisiadau o'r UE i astudio ym Mhrydain eleni.
Mae prifysgolion yn dweud ei bod dal rhy gynnar i ddweud beth yn union fydd goblygiadau gadael o ran datblygiad ac ymchwil.
Ond mae'n anorfod y bydd effaith, a chwestiwn arall yw a fydd academyddion rhyngwladol yn dewis mynd a'u sgiliau i sefydliadau yn Ewrop pan fydd yr arian o'r undeb yn dod i ben?
Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Owain Clarke
Mae data swyddogol yn dangos bod tua 6% o ddoctoriaid sy'n gweithio yng Nghymru wedi cymhwyso mewn gwlad arall o'r Undeb Ewropeaidd, ac mae problemau recriwtio mewn ardaloedd yng Nghymru.
Bydd angen i Lywodraeth y DU wneud yn glir beth yw ei bwriad am os fydd dinasyddion Ewropeaidd yn gallu gweithio yn y sector iechyd a gofal.
Bydd cwestiynau hefyd am ddefnydd dinasyddion o'r UE o'r gwasanaeth iechyd, i'r Cymry sy'n byw yn Ewrop, a'r trefniadau o ran gofal iechyd i dwristiaid.
Fel gweddill Prydain bydd gweithwyr GIG Cymru yn cadw llygad barcud ar gyfarwyddiadau oriau gwaith Ewropeaidd oherwydd yr effaith y gallai hynny gael ar eu cyflog, rota a chytundebau.
Yn ogystal bydd manteision ac anfanteision i unrhyw newidiadau i reoliadau meddyginiaethau a threialon clinigol.
Diwylliant: Huw Thomas
Mae adroddiad diweddar gan gyn gadeirydd Opera Cenedlaethol Cymru ac aelod blaenllaw o'r ymgyrch i Aros, Geraint Talfan Davies, wedi awgrymu bod o leiaf 拢2.3m o arian Ewropeaidd i fod i gael ei wario ar brosiectau diwylliannol yng Nghymru erbyn 2020.
Ond mae Mr Davies, oedd yn gyn rheolwr 91热爆 Cymru, yn dweud bod hi'n anoddach i fesur y buddiannau o gyfleoedd eraill fel arian ar gyfer y consortia rhyngwladol.
Mae'n dadlau bod angen canolbwyntio yn ystod trafodaethau Brexit ar wneud yn si诺r bod y DU yn parhau yn rhan o raglenni UE diwylliannol "am resymau celfyddydol cymaint 芒 rhesymau ariannol
Yn anecdotaidd mae rhai agweddau o'r diwydiannau celfyddydol yn elwa.
Dwi wedi cael gwybod bod y gostyngiad yn werth y bunt wedi helpu allforio ac annog cytundebau gyda phrynwyr tramor mewn meysydd fel ffilm ac animeiddio.
Ond mae gallu parhau i fasnachu gyda phartneriaid yn yr undeb a pheidio cyfyngu ar hawl cwmn茂au sydd ar daith a pherfformwyr i allu teithio yn uchel ar restr dymuniadau'r rhai sydd yn gweithio yn y byd celfyddydol.