Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ysgrifennu yn help wedi colli Ned union flwyddyn yn 么l
Ar ddiwrnod cyntaf G诺yl Ll锚n Plant Caerdydd, dywed un o'r llenorion a fydd yn cynnal sesiwn bod ysgrifennu yn lleddfu ychydig ar ei galar.
Cafodd Ned, mab yr awdures Sharon Marie Jones, ei ladd mewn damwain ffordd union flwyddyn yn 么l.
Meddai Sharon , awdures y llyfr Grace-Ella: Spells for Beginners: "Collais fy ail fab, Ned, ar y 25ain o Fawrth y llynedd.
"Dim ond pump oed oedd e. Roedd yn barod wrth ei fodd yn darllen, a byddwn yn darllen gyda fe bob nos. Mae hi wedi bod yn flwyddyn hunllefus, ond un peth sydd wedi fy helpu ychydig ydy ysgrifennu.
"Rwyf wedi ysgrifennu cerddi, a rhannu fy siwrne galar ar fy mlog. Dwi newydd ysgrifennu darn ar alar a fydd yn cael ei gyhoeddi mewn cyfrol eleni gan Y Lolfa.
"Ar hyn o bryd, dwi'n ysgrifennu ail lyfr Grace-Ella - dyna beth fyddai Ned eisiau a dyma rwy'n ceisio cadw ffocws arno. Mae'n rhaid i mi gredu y byddai Ned wedi bod yn falch iawn ohonof."
Roedd Ned, a oedd yn dod o Gapel Bangor, yn ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth.
"Dwi'n falch o gael bod yn rhan o 糯yl Ll锚n Plant Caerdydd, " meddai Sharon, "credaf bod darllen yn bwysig. Dwi wedi darllen gyda fy meibion ers oeddynt yn fabanod.
"Dwi wrth fy modd, yn benodol, gyda llyfrau lluniau. Un o'r ffefrynnau yma yw Hugless Douglas. Dydy fy mab hynaf ddim yn or-hoff o ddarllen ffuglen. Mae'n llawer gwell ganddo ddarllen llyfrau ffeithiol - yn enwedig os ydynt ar y pwnc Minecraft! Dwi'n mwynhau darllen 'hen' storiau iddynt - straeon fel Hansel a Gretel, Rumplestiltskin, Rapunzel ayb fel bod y stor茂au yma'n cael eu pasio lawr."
Eleni yw'r pumed tro i 糯yl Ll锚n Plant Caerdydd gael ei chynnal ac yr oedd yr 诺yl y llynedd yn fwy poblogaidd nag erioed.
Mae'r digwyddiadau dwyieithog yn cael eu cynnal ar ddau benwythnos gan ddechrau ar ddydd Sadwrn 25 Mawrth.
Dywed y trefnwyr bod yr 诺yl yn ddigwyddiad cyffrous ar gyfer y sawl sy'n hoff o lyfrau plant,
Ymhlith y rhai a fydd yn diddanu eleni fydd Anni Ll欧n (Bardd Plant Cymru), Manon Steffan Ros, Huw Aaron a David Melling - creawdwr Hugless Douglas.
Hefyd bydd Lucy Owen, cyflwynydd Wales Today a'i g诺r Rhodri yn s么n am eu llyfr diweddar Bw-A-Bog yn y Parc - mae'r llyfr ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae'r elw a wneir o werthiant y llyfr yn mynd at Elusen Arch Noa.
Bydd Sharon Marie-Jones yn cynnal ei digwyddiad ddydd Sul rhwng 1 a 2 o'r gloch yng nghastell Caerdydd.