Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Disgwyl llai o fyfyrwyr o Ewrop yng Nghymru wedi Brexit'
Mae disgwyl i lai o fyfyrwyr o Ewrop ddod i Gymru yn dilyn Brexit yn 么l Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd.
Dywedodd yr Athro Colin Riordan wrth raglen Wales Today y bydd ffioedd uwch a'r methiant i gael mynediad at fenthyciadau, mwy na thebyg, yn arwain at ostyngiad mewn niferoedd.
Mae'r Athro Riordan ar y llaw arall yn credu bydd Prifysgolion Cymru "yn gallu addasu" i unrhyw newidiadau drwy ail-strwythuro.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies AC bod Brexit yn gyfle i ddod 芒 mwy o arian i addysg uwch yng Nghymru.
Mae ffigyrau diweddara yn dangos bod ceisiadau i astudio yng Nghymru gan fyfyrwyr o Ewrop wedi gostwng ar 么l cynyddu'n flynyddol.
Roedd 4,400 cais ar gyfer 2017 - hynny i gymharu gyda 4,920 ar gyfer cyrsiau llynedd.
'Ffioedd uwch'
Dywedodd yr Athro Riordan bod Brexit wedi bod yn "sioc" ond bod y sector addysg uwch wedi "derbyn" y penderfyniad.
"Unwaith bydd y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, bydd myfyrwyr o Ewrop yn methu sicrhau yr un amodau 芒 myfyrwyr o'r DU - yn ein hachos ni myfyrwyr o Gymru.
"Byddent yn talu ffioedd uwch ac yn methu derbyn bencythiadau myfyrwyr. Mae hynny yn gwneud i mi feddwl y bydd llai ohonynt yn dod i Gymru," meddai.
'Profiad arbennig'
Dywedodd Andrew RT Davies AC nad oedd yn credu y byddai niferoedd y myfyrwyr o Ewrop yn gostwng.
"Mae cyfle yma i farchnata'r agweddau positif o addysg uwch yng Nghymru," meddai.
"Mae'r adnoddau ymchwil sydd gennym yn arbennig, felly hefyd y profiad academaidd a phrofiad y myfyriwr. Yn hytrach na gweld ochr dywyll pethau beth am s么n am y sefyllfa fel cyfle gwych i ddod 芒 mwy o arian i'r sector addysg uwch yma yng Nghymru a dwi'n hyderus y gallwn wneud hynny."
Ychwanegodd yr Athro Riordan y gallai myfyrwyr o Ewrop gael eu gweld yn fwy gwerthfawr yn y dyfodol gan ddweud: "Bydd y rheiny sydd yn dod i Gymru yn dod 芒 mwy o arian fewn i'r prifysgolion.
"Felly, yn hynny o beth, efallai y byddan nhw yn fwy gwerthfawr i Brifysgolion Cymru yn y dyfodol," meddai.