Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Eisteddfod: Llenwi maes carafanau 'yn gynt nag erioed'
Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol ar Ynys M么n yn dweud nad ydyn nhw erioed wedi llenwi'r maes carafanau mor sydyn ag eleni.
Gyda phum mis i fynd nes yr 诺yl mae pob lle eisoes wedi eu harchebu - rhywbeth sydd "erioed" wedi digwydd o'r blaen yn 么l y prif weithredwr.
- Mwy o
Dywedodd Elfed Roberts y byddai'r Eisteddfod nawr yn trafod 芒 pherchnogion gwersylloedd cyfagos er mwyn ceisio dod o hyd i fwy o le.
"Mae'r maes carafanau wedi bod ar agor [i archebu lle] ar gyfer Eisteddfod Ynys M么n ers cwta fis, ac mae pob un o'r safleoedd, bron i 800, wedi mynd," meddai.
"Dydi hynny erioed 'di digwydd o'r blaen mor gynnar.
"Roeddan ni'n gwybod fod 'na andros o lot o frwdfrydedd yngl欧n 芒'r Eisteddfod eleni yn Ynys M么n, ond mae gwerthu'r math yma o niferoedd mewn cyn lleied o amser yn dipyn o sioc.
"Mae'n beth da, achos mae'n dangos brwdfrydedd ac mae'n dangos bod awydd i ddod i'r Eisteddfod."
Ychwanegodd nad oedd ehangu'r maes carafanau presennol yn opsiwn "ymarferol" ar hyn o bryd, ond bod disgwyl i'r cyngor sir gyhoeddi rhestr yn fuan o feysydd eraill fyddai ar gael i eisteddfodwyr.
Dydi'r Eisteddfod ddim yn cadw rhestr aros ar gyfer y maes carafanau, sydd yn dal tua 800 caraf谩n a 200 o bebyll.
Bydd y Brifwyl yn cael ei chynnal ym Modedern rhwng 4 a 12 Awst.