'Camreoli' prosiect trydaneiddio rheilffordd de Cymru

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Mae disgwyl i drenau trydan ddechrau rhedeg o Gaerdydd i Lundain yn 2019

Mae pwyllgor o ASau wedi dweud bod angen i Lywodraeth y DU a Network Rail ddysgu gwersi o'r prosiect i drydaneiddio'r brif linell reilffordd yn ne Cymru.

Yn 么l y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus roedd y cynllun wedi ei "gamreoli" ac wedi gadael cwsmeriaid yn "flin a rhwystredig".

Ychwanegodd yr ASau ei fod yn "esiampl amlwg o sut i beidio 芒 rhedeg cynllun mawr", wrth i bryderon gael eu codi na fydd yn cael ei gwblhau ar amser.

Dywedodd Network Rail eu bod wedi "dysgu gwersi" ac na fyddai prosiectau mawr eraill yn dechrau cyn cael eu hasesu'n iawn.

Mae'r Gweinidog Rheilffyrdd, Paul Maynard wedi dweud eu bod wedi trawsnewid y ffordd maent yn "comisiynu ac yn goruchwylio gwaith Network Rail".

'Gwarthus'

Dywedodd y pwyllgor ei bod hi'n "annerbyniol" bod cost y cynllun wedi cynyddu o 拢1.2bn "o fewn blwyddyn", gan gwestiynu a fyddai'r cynllun yn cael ei gwblhau erbyn Rhagfyr 2018 ac o fewn cyllideb o 拢2.8bn.

Ymysg eu hargymhellion roedd galwad ar yr Adran Drafnidiaeth a Network Rail i ailasesu'r achos dros drydaneiddio'r rheilffyrdd, a gwneud hynny "dim ond pan nad oes modd sicrhau manteision i deithwyr fyddai ddim yn bosib am gost lai".

"Mae'r symiau o arian cyhoeddus sydd wedi eu gwastraffu yn warthus - megis y 拢330m o gost ychwanegol i'r Adran Drafnidiaeth o gadw trenau yn rhedeg oherwydd oedi i'r trydaneiddio," meddai Meg Hillier AS, cadeirydd y pwyllgor.

Dywedodd Network Rail eu bod wedi cytuno i'r uwchraddio yn 2009, "ymhell cyn i faint y gwaith gael ei ddeall yn iawn".

"Mae Network Rail a'r Adran Drafnidiaeth wedi dysgu'r gwersi o gynllunio gwael ar ddechrau'r prosiect," meddai llefarydd.

Disgrifiad o'r llun, Byddai modd "datrys y broblem" wrth ddatganoli'r holl gyfrifoldeb dros reilffyrdd i Gymru, meddai Ken Skates

Does dim disgwyl i adroddiad y pwyllgor effeithio ar y gwaith sydd yn digwydd ar hyn o bryd o drydaneiddio'r linell rhwng Caerdydd a Llundain.

Ond dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Llywodraeth Cymru, Ken Skates ei fod yn "siomedig" bod Llywodraeth y DU yn "camu n么l o gynlluniau i drydaneiddio rhannau o lwybr y Great Western".

"Rydyn ni'n pwyso ar Lywodraeth y DU am gadarnhad y bydd trydaneiddio i Abertawe yn digwydd yn syth ar 么l i'r trydaneiddio i Gaerdydd gael ei gwblhau, fel y cafodd ei addo, yn 2018," meddai.

Mynnodd hefyd fod angen gwaith moderneiddio ar linell y gogledd, gan ddweud y byddai modd "datrys y broblem yn sydyn" petai cyfrifoldeb dros holl isadeiledd rheilffyrdd yn cael ei ddatganoli i Gymru.

'Gwaith mawr'

Dywedodd Gweinidog Rheilffyrdd Llywodraeth y DU, Paul Maynard: "Moderneiddio rheilffordd y Great Western yw'r rhaglen waith fwyaf ar y rheilffyrdd ers y cyfnod Fictorianaidd, ac fe fydd yn darparu gwasanaethau gwell ar gyfer teithwyr, trenau newydd a miloedd yn fwy o seddi."

Ychwanegodd eu bod am sicrhau fod y trethdalwyr yn cael gwerth am arian, a'u bod yn asesu hynny'n gyson.

Mae'r adran hefyd wedi trawsnewid y ffordd maen nhw'n "comisiynu ac yn goruchwylio gwaith Network Rail", meddai.