397 o ffoaduriaid o Syria wedi ailgartrefu yng Nghymru

Disgrifiad o'r llun, Roedd rhai o'r ffoaduriaid sydd yng Nghymru yn ymweld 芒'r Eisteddfod Genedlaethol yn gynharach ym mis Awst

Yn 么l yr ystadegau diweddaraf gan y Swyddfa Gartref, mae o leiaf 397 o ffoaduriaid o Syria bellach wedi eu hailgartrefu yng Nghymru.

Roedd 21 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi derbyn ffoaduriaid o dan gynllun Ailgartrefu Pobl Bregus Syria gan Lywodraeth y DU erbyn diwedd Rhagfyr y llynedd.

Mae rhai cynghorau wedi cael eu beirniadu am fod yn araf yn ailgartrefu pobl.

Daeth croeso i'r ffigyrau gan elusen Oxfam Cymru.

Dywedodd Matthew Hemsley ar ran yr elusen: "Mae gan Gymru hanes balch o groesawu pobl mewn angen ac mae'n bwysig gweld y traddodiad yna'n parhau."

Yn ail hanner 2016 y daeth y mwyafrif o ffoaduriaid i Gymru, sef 285. Mae cyfanswm y ffoaduriaid i gael eu derbyn i'r DU yn 5,454.

Yng Nghymru, mae'r nifer o ffoaduriaid i gael eu derbyn gan y cynghorau unigol fel a ganlyn:

  • Ynys M么n - 4;
  • Blaenau Gwent - 10;
  • Pen-y-bont ar Ogwr - 6;
  • Caerffili - 12;
  • Caerdydd - 26;
  • Sir Gaerfyrddin - 33;
  • Ceredigion - 23;
  • Conwy - 3;
  • Sir Ddinbych - 5;
  • Sir y Fflint - 5;
  • Gwynedd - 12;
  • Merthyr Tudful - 8;
  • Sir Fynwy - 15;
  • Castell-nedd Port Talbot - 52;
  • Casnewydd - 10;
  • Sir Benfro - 0;
  • Powys - 44;
  • Rhondda Cynon Taf - 34;
  • Abertawe - 45;
  • Torfaen - 15;
  • Bro Morgannwg - 15;
  • Wrecsam - 20.