Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Mwy yn gwrando ar Radio Cymru
Mae'r niferoedd sy'n gwrando ar 91热爆 Radio Cymru wedi codi o'i gymharu 芒'r chwarter blaenorol.
Bu cynnydd hefyd yn niferoedd gwrandawyr Radio Wales.
Erbyn diwedd y flwyddyn roedd 114,000 yn gwrando ar yr orsaf Gymraeg, yn 么l y ffigyrau ymchwil cynulleidfaoedd radio (RAJAR).
Mae'n gynnydd o'i gymharu 芒'r chwarter rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, lle'r oedd 101,000 o bobl wedi gwrando ar yr orsaf.
Rheiny oedd y ffigyrau gwrando isaf ers troad y ganrif.
Roedd 6,000 yn fwy o bobl wedi gwrando yn y chwarter diwethaf o'i gymharu 芒'r un cyfnod flwyddyn ynghynt (108,000).
Fe wnaeth Radio Wales hefyd weld cynnydd yn eu cynulleidfa, gan ddenu 375,000 o wrandawyr.