Carchardai 'ddim yn taclo cyffuriau cyfreithlon'

Dyw carchardai Cymru ddim yn delio'n ddigonol gyda'r defnydd o gyffuriau 'cyfreithlon', meddai Cymdeithas y Swyddogion Carchar.

Mae'r cyffuriau hyn yn cael eu disgrifio fel 'cyffuriau cyfreithlon' neu legal highs, er eu bod yn anghyfreithlon.

Mae ffigyrau ddaeth i law rhaglen y Post Cyntaf trwy gais rhyddid gwybodaeth yn dangos bod nifer yr achosion lle'r oedd angen i un ambiwlans neu fwy fynd i garchardai Cymru wedi dyblu yn y pedair blynedd ddiwethaf.

Yn 么l staff sydd yn gweithio o fewn y gwasanaethau iechyd a charchardai, y rheswm am y cynnydd yw bod mwy o'r cyffuriau, fel Spice, mewn carchardai.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod wedi ymroi yn llwyr i wneud carchardai yn llefydd diogel.

'Sugno adnoddau'

Mae Glyn Travis, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol y Gymdeithas yn dweud bod gan garchardai "broblem sylfaenol sydd yn sugno adnoddau'r gwasanaethau brys mae'r cyhoedd yn dibynnu arnynt".

"Yr hyn rydyn ni'n gweld yw poblogaeth yn y carchar sydd yn fwy treisgar ac yn fwy tanllyd. Ni'n meddwl mai un o'r rhesymau sylfaenol yw'r ffaith bod hi'n hawdd cael gafael ar gyffuriau penfeddwol fel Spice sydd yn achosi problemau mawr yn ein system garchardai.

"Mi ydyn ni'n gweld mwy a mwy o achosion o hunan niweidio a hunan laddiad mewn carchardai, a mwy a mwy o garcharorion sydd yn cael eu darganfod yn anymwybodol yn eu celloedd.

"Dyma yw'r ffactor sylfaenol sydd yn achosi straen ar y gwasanaethau brys am eu bod yn gorfod dod i'r carchar i ddelio gyda'r achosion hyn sydd yn digwydd yn ddyddiol."

System newydd

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud y byddan nhw'n cyflwyno system newydd o brofi cyffuriau o'r math yma, gan hyfforddi 2,500 o swyddogion newydd.

Ond mae Mr Travis yn dweud nad yw hyn yn ddigon am fod yna dorri n么l wedi bod ar nifer y swyddogion carchar ers 2010.

"Fydden ni'n dweud bod carchardai yn gythrwfl llwyr, fel yr awr brysur ar y tiwb yn Llundain yn ddyddiol.

"Mae gyda ni garcharorion yn gwau trwy'i gilydd gyda nifer fach iawn o staff yn goruchwylio ac fe all anrhefn a diffyg disgyblaeth ddechrau yn gyflym ac achosi problem.

"Mae'r sefyllfa yn draed moch a'r unig ffordd i ddatrys y mater yw cyfundrefn ac adnoddau digonol, a bod diogelwch a disgyblaeth yn gwella."

Disgrifiad o'r llun, Mae Steve Masterman wedi gweld pobl o dan ddylanwad y cyffuriau cyfreithlon yn y carchar ac yn dweud bod yr effaith yn "ddychrynllyd"

Mae Steve Masterman wedi treulio cyfnod yn y carchar. Erbyn hyn mae'n gweithio i Wasanaeth Alcohol a Chyffuriau Gwent.

Mae'n dweud bod cyffuriau cyfreithlon yn broblem enfawr mewn carchardai ers rhyw dair blynedd.

"Dw i'n meddwl bod e'n eithaf cyffredin i bobl fod yn y carchar a'u bod nhw'n mynd yn gaeth ar y sylweddau 'ma.

"O'r blaen fydden nhw ddim wedi clywed amdanyn nhw, ond yn y carchar mae'n hawdd, mae ar gael yn rhwydd a dyma'r cyffur o ddewis ar y foment yn y carchardai."

Mae eu heffaith, meddai, yn "ddychrynllyd" ac mae'n credu mai dim ond canran o'r carcharorion sydd yn cael help meddygol.

"Mae 'na lot o bobl yn cymryd y cyffuriau ar ben ei hunain, yn eu stafell, wedi cloi yn eu cell dros nos ac mae'n si诺r fyddan nhw ddim yn rhoi gwybod i staff os ydyn nhw yn teimlo yn s芒l.

"Felly mae 'na risg bod y bobl yma ddim yn gallu rhybuddio staff bod rhywbeth yn bod."

Mae rhai parafeddygon wedi dweud wrth y 91热爆 bod delio gydag achosion mewn carchardai yn achosi straen ar y gwasanaeth.

Maen nhw'n dweud bod modd delio gyda chleifion yn eu tai mewn ychydig funudau, ond bod achos tebyg mewn carchar yn gallu cymryd llawer yn hirach a bod hyn yn cael effaith ar allu'r gwasanaeth i ddelio gyda galwadau eraill.

Ond yn 么l Richard Lee, cyfarwyddwr gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru mae holl alwadau 999 yn cael eu blaenoriaethu yn 么l gofynion clinigol y claf.

"Pan rydym yn ymateb i gleifion mewn ysbyty mae yna ofynion diogelwch yr ydym yn cyd-fynd 芒 nhw wrth gyrraedd neu ymadael - sy'n amlwg yn cymryd mwy o amser nag wrth ymweld 芒 rhywun yn eu cartref.

"Rydym yn ymateb i ystod lawn o achosion brys mewn carchardai, yn aml yn rhoi cymorth i staff iechyd y sefydliad."

Buddsoddi 拢100m

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod wedi ymroi yn llwyr i wneud carchardai yn llefydd diogel, a llefydd lle bydd cyfle i garcharorion gael eu hadfer.

"Rydym wedi cymryd camau yn syth er mwyn mwyn i'r afael 芒 chyffuriau, droniau a ffonau sy'n tanseilio diogelwch. Rydym hefyd yn buddsoddi 拢100m bob blwyddyn i hybu'r rheng flaen gyda 2,500 o swyddogion," meddai.

"Mae'r rhain yn faterion hir dymor na fydd yn cael eu datrys mewn wythnosau neu fisoedd, ond bydd ein digwyddiadau yn gosod sylfaen i drawsnewid ein carchardai, gan leihau aildroseddu a gwneud ein cymunedau yn fwy diogel."