Aelod Cynulliad UKIP yn gwadu ysmygu 'cyffuriau meddal'

Disgrifiad o'r llun, Roedd Michelle Brown yn un o saith AC UKIP gafodd eu hethol i'r Cynulliad yn 2016
  • Awdur, James Williams
  • Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 91热爆 Cymru

Mae un o Aelodau Cynulliad UKIP wedi gwadu cyhuddiad gan westy iddi ysmygu "cyffuriau meddal" mewn ystafell wely wrth aros yng Nghaerdydd er mwyn mynychu'r Senedd.

Fe gododd gwesty'r Future Inn ym Mae Caerdydd d芒l o 拢250 ar Michelle Brown, AC rhanbarthol dros Ogledd Cymru, ar 么l ei chyhuddo o achosi "arogl cryf" yn ei hystafell a oedd yn golygu na ellid defnyddio'r ystafell am 24 awr.

Mae llefarydd ar ran Ms Brown wedi gwadu'r cyhuddiad, gan ddweud mai defnyddio cynnyrch tybaco gydag arogl cryf a wnaeth yr AC yn yr ystafell, oedd yn un dim-ysmygu.

"Roedd e'n gamgymeriad di-feddwl ac fe dalodd Michelle y gost o lanhau'r stafell," meddai'r llefarydd.

Roedd y digwyddiad wedi cymryd lle ym mis Mai'r llynedd, wythnos wedi i Michelle Brown gael ei hethol am y tro cyntaf i gynrychioli UKIP yn y Senedd.

'Camgymeriad di-feddwl'

Arhosodd Michelle Brown, sy'n byw ym mhentref Mostyn yn Sir y Fflint, yng ngwesty'r Future Inn ym Mae Caerdydd o 9 - 11 Mai.

Fe gwynodd y gwesty yn dilyn ymadawiad yr Aelod Cynulliad ar y dydd Mercher.

Mae 91热爆 Cymru ar ddeall bod y gwesty wedi ei chyhuddo o ysmygu "cyffuriau meddal" yn ei hystafell wely, gan ddweud "oherwydd yr arogl cryf yn yr ystafell ni ellir ei ddefnyddio am 24 awr".

Dywedodd llefarydd ar ran Michelle Brown: "Yn ddiweddar roedd Michelle wedi treulio cwpl o nosweithiau mewn gwesty gydag ystafelloedd ysmygu, ac mae 'na nifer ohonynt ar draws y DU, ond yn anffodus fe anghofiodd hi ei bod hi'n aros mewn gwesty heb y fath ystafelloedd.

"Roedd e'n gamgymeriad di-feddwl ac fe dalodd Michelle y gost o lanhau'r stafell."

Dywedodd llefarydd ar ran Future Inns: "Byddai Future Inns yn hoffi cadarnhau nag yw'r defnydd anghyfreithlon o gyffuriau ar ein safleoedd yn cael ei ganiat谩u ar unrhyw adeg.

"Nid ydym, fodd bynnag, yn trafod y materion yma gyda thrydedd parti oni bai ei fod yn ofynnol gan awdurdodau'r gyfraith."