Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
A55/A494: Ymgynghoriad ar gynllun 拢200m i wella ffyrdd
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar gynlluniau gwerth 拢200m i geisio lleddfu tagfeydd traffig ar ffordd ddeuol yr A55/A494 yn Sir y Fflint
Mae'r cynlluniau i fynd i'r afael 芒 thraffig ar y ffordd rhwng Queensferry a Llaneurgain yn dyddio'n 么l 10 mlynedd.
Un dewis dan ystyriaeth yw creu ffordd gyswllt newydd ar yr A55 yn Llaneurgain drwy Bont Sir y Fflint ar yr A548, tra bod y dewis arall yn ymwneud 芒 gwella'r ffyrdd sy'n cael eu defnyddio'n barod.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd yr ymgynghoriad 12 wythnos yn dechrau ym mis Mawrth.
Dywedodd yr ysgrifennydd economi, Ken Skates: "Mae'r ffordd yn gyson yn cludo mwy o draffig nag a gafodd ei gynllunio ar ei chyfer, ac mae hyn yn achosi tagfeydd yn aml.
"Mae'n glir bod angen uwchraddio a moderneiddio'r ffordd.
"Byddai'r ddau ddewis yn yr ymgynghoriad yn arwain at greu ffordd fwy diogel, cynaliadwy sy'n darparu gwell cysylltiadau, gan wella capasiti, dibynadwyedd ac amseroedd teithio."