Cefnogi troi ysgol Llangennech yn ysgol cyfrwng Cymraeg

Disgrifiad o'r llun, Mae Ysgol Llangennech yn ysgol ddwyeithog ar hyn o bryd, ond mae cynllun i gynnig addysg Gymraeg yn unig yno

Mae cynghorwyr wedi pleidleisio o blaid newid ysgol ddwyieithog yn Sir G芒r yn ysgol cyfrwng Cymraeg yn unig.

Pleidleisiodd 38 o gynghorwyr o blaid y newid yn Ysgol Llangennech ger Llanelli, gyda 20 yn gwrthwynebu ac un yn ymatal rhag pleidleisio.

Nod y cyngor yw ehangu addysg Gymraeg yn y sir, ond mae rhai o rieni Llangennech yn anhapus, gan rybuddio y bydd y newid yn rhwygo'r gymuned.

Ond cyn y bleidlais fe wnaeth gr诺p o rieni sy'n cefnogi'r newidiadau hefyd anfon llythyr at y cyngor yn datgan eu cefnogaeth.

Ar hyn o bryd mae dwy ffrwd - un cyfrwng Cymraeg ac un Saesneg.

Cyn y cyfarfod, dywedodd Gareth Jones, sydd 芒 chyfrifoldeb am addysg ar Fwrdd Gweithredol y sir, fod y broses wedi bod yn un hir. Daeth y cyfnod ymgynghori i ben fis Mawrth y llynedd.

Dywedodd: "Ni wedi bod wrthi ers sawl blwyddyn yn trio cael y broses wedi ei gweithredu, mae hwn yn rhan o'n cynllun i ehangu addysg Gymraeg drwy'r sir."

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, O dan drafodaeth mae uno'r ysgol gynradd a'r ysgol fabanod

Mae Mr Jones yn derbyn bod rhai o'r rheini yn gwrthod newid: "Maen nhw'n hapus gyda'r sefyllfa fel mae ar hyn o bryd.

"Ond beth ydym ni am ei sicrhau yw bod mwy o gyfleoedd gyda'n plant ni i fod yn ddwyieithog, a bod ganddynt fwy o gyfleoedd yn y byd gwaith."

Dywed y gwrthwynebwyr eu bod yn ystyried cymryd camau cyfreithiol pe bai'r cyngor yn bwrw 'mlaen gyda'u cynlluniau.

Maen nhw'n dweud nad ydyn nhw'n wrth-Gymraeg, ond y byddai'r newid yn golygu y byddai'n rhaid i blant sy'n dymuno addysg cyfrwng Saesneg deithio o'r pentref i ysgolion cyfagos.

Mae Julia Rees wedi penderfynu symud ei phlant o'r ysgol, ac mae hi'n gwrthwynebu'r newid: "Ni eisiau ein plant i siarad Cymraeg ond ni eisiau dewis pa ffrwd maen nhw'n cael mynd iddo."

'Sefyllfa fregus'

Fe wnaeth gr诺p o rieni sy'n ffafrio'r newid anfon llythyr at y cyngor gan ddatgan: "Yn dilyn cyfrifiad 2011, ni allwn bellach anwybyddu sefyllfa fregus yr iaith Gymraeg yn ein cymunedau a thrwy greu Ysgol Gymunedol Gymraeg yn Llangennech, gallwn gyda'n gilydd ddechrau ar y broses o unwaith eto greu pentref Cymraeg ei iaith yn Llangennech.

"Y pwynt pwysicaf i ystyried yn ystod y cyfarfod ddydd Mercher yw addysg ein plant ac felly rydym ni'n gofyn i chi'n garedig iawn i gofio effaith hirdymor y newid hwn ar y plant."

Ar hyn o bryd, mae Ysgol Llangennech ar ddau safle ar wah芒n, un i blant yr adran fabanod, a'r llall i'r adran iau.

Dan y cynllun, byddai un ysgol 3-11 oed cyfrwng Cymraeg yn cael ei sefydlu.