Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Mwy yn mynd i'r ysbyty oherwydd ffliw yng Nghymru
Mae pobl bregus yn cael eu hannog i gael brechiad rhag y ffliw, wrth i ffigyrau ddangos cynnydd yn nifer y bobl sydd wedi mynd i'r ysbyty gyda'r feirws.
Roedd bron i 800 wedi cael diagnosis gan feddygol teulu am symptomau'r ffliw yn y pythefnos dros y Nadolig gyda 195 wedi bod yn yr ysbyty y gaeaf hwn.
Roedd hyn yn cynnwys 25 o bobl gafodd gofal dwys, ac roedd sawl achos difrifol mewn wardiau ysbytai a chartrefi gofal.
Menywod beichiog a phobl gyda anhwylderau iechyd tymor hir sydd mewn perygl fwyaf.
Yn 么l Dr Richard Roberts, un o benaethiaid Iechyd Cyhoeddus Cymru: "I ni'n disgwyl i'r feirws i barhau i gynyddu yng Nghymru am chwech i wyth wythnos, ac am hirach ar lefau is, felly mae'n hanfodol i sicrhau bod y rhai sydd angen y brechiad yn cael hwnnw mor fuan ag sy'n bosib er mwyn eu hamddiffyn am weddill y tymor."